Thomas yn gorffen yn ail yn y Tour de France

Bernal (canol) yn ennill a'r Cymro Geraint Thomas yn ail Image copyright EPA
Image caption Bernal (canol) yn ennill a'r Cymro Geraint Thomas yn ail

Mae'r Tour de France wedi dod i ben gyda'r Cymro Geraint Thomas yn gorffen yn yr ail safle.

Ni lwyddodd Thomas i ennill am yr ail dro yn olynol, ac eleni y gŵr o Colombia, Egan Bernal, sydd yn aelod o dîm Inbeos gyda Thomas, orffennodd y ras yn gyntaf.

Fe groesodd Bernal y linell yn y peloton, law yn llaw â'i gyfaill Geraint Thomas.

"Mae gorffen yn ail y tu ôl i aelod arall o'r tîm yn OK," meddai Geraint Thomas ar ddiwedd y ras.

Roedd mantais Bernal yn funud a 11 eiliad dros Thomas yn mynd fewn i'r cymal olaf ddydd Sul, gyda Steven Kruijswijk yn drydydd.

Image copyright Reuters
Image caption Geraint Thomas oedd y cyntaf i longyfarch yr enillydd wrth i'r ddau orffen law yn llaw

Mae'r cymal olaf yn wahanol i weddill y Tour, gyda thraddodiad nad oes unrhyw un yn herio'r cystadleuydd sydd yn y crys melyn.

Fe orffennodd y Ffrancwr Julian Alaphilippe - a oedd wedi arwain y ras am gyhyd - yn y pumed safle.

Er gwaethaf ymdrechion Thomas i orffen y ras yn gyntaf, dywedodd pennaeth tîm Ineos, Syr David Brailsford ei bod hi wedi bod yn "bleser gweithio gyda Thomas."

"Mae wedi cael ras wych. Pan mae rhywun yn ennill y Tour de France am y tro cyntaf, dydyn nhw byth fel arfer yn dychwelyd ac yn gwneud yn dda y tymor canlynol,

"Mae Geraint wedi mynd yn groes i'r disgwyl ac fe allai fod wedi ennill y ras. Mae'n berson teg ac roedd eisiau ennill.

"Ond pan ddaeth y cyfle i'r tîm ennill roedd 100% y tu ôl i hynny ac mae'n bleser gweithio gydag ef," meddai.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol