Arestio gyrrwr wedi marwolaeth beiciwr modur

A4042 Image copyright Google
Image caption Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r A4042 ger Llanofer brynhawn Sul

Mae dyn 71 oed wedi cael ei arestio wedi i berson gael ei ladd yn dilyn gwrthdrawiad rhwng car a beic modur yn Sir Fynwy.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ar yr A4042 ger Llanofer toc wedi 15:30 ddydd Sul.

Dywedodd Heddlu Gwent bod gyrrwr beic modur Honda wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad gyda Range Rover glas.

Cafodd gyrrwr y car, oedd wedi dioddef mân anafiadau yn y digwyddiad, ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus.

Pynciau Cysylltiedig