Rhybudd melyn am stormydd ledled Cymru ddydd Mawrth

Rhybudd Image copyright Y Swyddfa Dywydd
Image caption Mae'r rhybudd mewn grym ar gyfer Cymru gyfan

Fe allai stormydd mellt a tharanau arwain at lifogydd a thrafferthion i deithwyr ddydd Mawrth, yn ôl y Swyddfa Dywydd.

Mae rhybudd melyn i fod yn "wyliadwrus" mewn grym rhwng 03:00 a 23:59 ddydd Mawrth.

Yn ôl y Swyddfa Dywydd mae'r rhybudd yn berthnasol i Gymru gyfan.

"Mae yna bosibilrwydd bychan y gallai dŵr lifo i dai a busnesau yn sydyn, ac y gallai rhai adeiladau gael eu difrodi gan ddŵr, mellt, cenllysg a gwyntoedd cryfion," meddai'r rhybudd.

Mae rhybudd hefyd y gallai'r tywydd effeithio ar wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus.

Pynciau Cysylltiedig