Ydy Cymru'n cynhesu at y syniad o annibyniaeth?

Dros y penwythnos fe heidiodd miloedd i Gaernarfon i orymdeithio o blaid annibyniaeth.

Dyma'r ail orymdaith o'r fath yn y misoedd diwethaf sydd wedi cael ei threfnu gan fudiad YesCymru, yn dilyn y gyntaf yng Nghaerdydd ym mis Mai. Mae trydedd un wedi cael ei threfnu ym Merthyr Tudful ym mis Medi.

Mae YesCymru hefyd wedi tyfu'n fwy amlwg, gyda logo'r mudiad i'w weld ar furluniau ac ochr ffyrdd ar draws y wlad.

Oes rhywbeth yn digwydd? Yw agwedd pobl Cymru wir yn cynhesu tuag at annibyniaeth? Gofynnodd Cymru Fyw i'r Athro Roger Awan-Scully o Brifysgol Caerdydd edrych ar y sefyllfa:

gorymdaith

Dros y sawl mis diwetha', mae'r sgwrs wedi newid yng Nghymru.

Dy'n ni ddim yn gweld llawer o ddylanwad yn y polau piniwn eto - mae'n bendant yn rhywbeth sydd ddim ond yn cael ei gefnogi gan leiafrif.

Ond y newid mwy sylfaenol yw fod pobl oedd yn y gorffennol yn gwrthod hyd yn oed trafod annibyniaeth, bellach yn fodlon trafod y pwnc o leiaf.

Rydym yn gweld pobl fel Carwyn Jones yn disgrifio eu hunain fel indy-curious. 'Dyw e ddim yn hollol gefnogol o annibyniaeth, ond mae o leiaf yn fodlon cael sgwrs amdano.

scully
Image caption Dr Roger Awan-Scully

Dylanwad Brexit

Dwi'n meddwl mai'r peth pwysicaf yw Brexit.

Pum mlynedd yn ôl yn ystod ymgyrch yr Alban, y ddadl gryfaf i'r ochr Na oedd yr holl drafod am 'strength, security and stability of the United Kingdom'.

Ers hynny, mae'r ffordd mae'r Llywodraeth yn Llundain wedi delio gyda Brexit wedi tanseilio llawer o'r dadleuon yma o blaid Teyrnas Gyfunol. 'Dyw hi ddim yn edrych yn gryf a chadarn ar hyn o bryd.

Pwynt arall yw fod y mwyafrif o'r bobl sy'n fodlon trafod annibyniaeth yn cefnogi aros yn yr Undeb Ewropeaidd. Maen nhw'n gweld y modd mae'r Deyrnas Gyfunol yn datblygu, a 'dyw aelodaeth ohoni ddim yn edrych mor atyniadol ag oedd bum mlynedd yn ôl.

Mae cefnogaeth i annibyniaeth dros Gymru wedi bod ers degawdau, ond mae teimlad o afrealiti wedi bod o'i amgylch. Hyd yn oed o fewn Plaid Cymru, uchelgais hir-dymor oedd annibyniaeth - cefnogi datganoli oedd y flaenoriaeth.

Ond mae newid mawr wedi bod ers y 90au yn enwedig ac rydym yn gweld fod mwy o bobl yng Nghymru yn cefnogi datganoli o fewn y Deyrnas Gyfunol.

Sut fyddai Cymru annibynnol yn edrych?

Os yw Cymru am fod yn annibynnol rhywbryd, yna mae'n rhaid cychwyn y broses drwy ddatblygu'r sgwrs hefyd am sut wladwriaeth fyddai Cymru petai'n annibynnol. Yn ddiweddar mae'n teimlo fel bod y sgwrs yma wedi troi ychydig yn fwy difrifol.

Gallwn weld o'r Alban a sawl enghraifft dros y byd, os yw Cymru am ddatblygu i'r pwynt ble mae pobl yn pleidleisio dros annibyniaeth byddai angen clymblaid fawr o gefnogaeth i'r syniad.

gorymdaith Image copyright Guto Rhys
Image caption Amcangyfrifir fod tua 8,000 yn yr orymdaith yng Nghaernarfon

Byddai angen cefnogaeth o'r asgell dde a'r asgell chwith a chefnogaeth siaradwyr Cymraeg a di-Gymraeg. Byddai'n rhaid datblygu symudiad cymdeithasol lle byddai pobl o sawl safbwynt yn fodlon ystyried y syniad.

Dyna pam mae'n anodd cyrraedd y pwynt ble mae pobl yn fodlon pleidleisio dros annibyniaeth.

Rydym yn gweld yn gyson fod pobl eisiau mwy o bwerau i'r Cynulliad a mwy o ddatganoli.

Os bydd rhai yn teimlo na fydd mwy o ddatganoli go iawn o fewn y Deyrnas Gyfunol, mae'n bosib gwnawn nhw ystyried annibyniaeth lawn.

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau Cysylltiedig