Manwerthwyr yn 'rhwystredig' dros ddiffyg cefnogaeth

siopa yng Nghymru

Mae manwerthwyr yng Nghymru yn teimlo'n rhwystredig am ddiffyg datblygiadau ar gynllun gweithredu i roi hwb i'r diwydiant.

Mae'n 18 mis ers i Lywodraeth Cymru ddweud y byddai manwerthu yn un o bedwar sector sylfaen economi Cymru, gyda chymorth yn cynnwys cefnogaeth a gwella sgiliau.

Ond fe ddywedodd Consortiwm Manwerthu Cymru eu bod yn siomedig nad oedden nhw "wedi gweld unrhyw gynnydd".

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod "wedi ymrwymo i weithio'n agos gyda'r sector manwerthu er mwyn ei gynorthwyo i ymateb i'r heriau sylweddol sy'n ei wynebu".

'Cyfnod o ansicrwydd'

Mae'r diwydiant eisiau cydnabyddiaeth y gall gyrfaoedd mewn manwerthu gynnig cyfleoedd gwych er gwaethaf yr heriau sy'n ei wynebu - ac mae eisiau mwy o gymorth i gynnig prentisiaethau, fel sy'n digwydd yn yr economi ddigidol a thechnoleg.

Daw'r sylwadau wrth i'r ffigyrau swyddogol diweddaraf ddangos fod 23,000 yn llai o swyddi ar draws diwydiant manwerthu a chyfanwerthu Cymru na 10 mlynedd yn ôl, gydag un o bob wyth siop ar y stryd fawr yn wag.

Dywedodd Sara Jones, pennaeth Consortiwm Manwerthu Cymru, fod rhwystredigaeth yn y diwydiant yn ystod cyfnod o ansicrwydd a hyder isel ymhlith cwsmeriaid.

"Yn 2017, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i gynllun gweithredu economaidd - yn y cynllun yna fe ddywedon nhw eu bod yn blaenoriaethu'r diwydiant manwerthu," meddai.

"Fe wnaethon nhw alw am gynllun galluogi ar gyfer y diwydiant, ond yn anffodus dydyn ni ddim wedi gweld unrhyw ddatblygiadau ar hynny ers y cyhoeddiad cyntaf hwnnw."

Ychwanegodd Ms Jones: "Rydyn ni'n awyddus iawn nawr i weithio gyda'r llywodraeth ar yr hyn y gallwn ei wneud o gwmpas y cynllun hwnnw."

Er gwaethaf yr hyn a alwodd yn "berthynas ffrwythlon" gyda gweinidogion Cymru, dywedodd bod angen gweithredu pellach.

"Rydyn ni'n gwybod bod diddordeb mewn sgiliau, diddordeb mewn gweithio gyda ni, ond dydyn ni ddim wedi gweld cynnwys y cynllun hwnnw," meddai.

"Rydyn ni'n gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn edrych ar gefnogaeth i fentrau llai, ond mae angen gweld rhai o'r materion polisi sy'n rhan o'r cynllun hwnnw.

"Mae'r cynllun gweithredu hwn yn gwbl allweddol - byddai'n edrych ar draws y broses o lunio polisïau ar eu heffaith, ac yn mynd i'r afael â rhai o'r heriau sylfaenol i'r diwydiant, fel ardrethi busnes a phwysau costau, ond hefyd yr angen i fuddsoddi mewn sgiliau a'r gweithlu."

Image caption Mae gan Clogau gymysgedd o stocwyr, eu siopau eu hunain, a busnes ar-lein

Oes aur i fanwerthu yng Nghymru?

Mae Aur Clogau, sydd wedi'i leoli yn Sir Ddinbych, yn ehangu ei gadwyn o siopau ar ôl arbrofi gyda gwerthu drwy siopau Clogau a safleoedd manwerthu eraill.

Agorodd y cwmni siop ym Mrychdyn, Sir y Fflint, ac mae 'na gynlluniau am siopau newydd yng Nghasnewydd, Caerfyrddin a Bryste.

Dywedodd y rheolwr gyfarwyddwr, Ben Roberts: "Camau bychan ydyn nhw, nid neidio mewn gyda dwy droed. Dwi'n profi'r farchnad trwy'r amser."

Mae'n ffafrio canolfannau siopa ac yn dweud bod angen i'r stryd fawr newid, gyda rheolaeth briodol a mynediad haws i gwsmeriaid, fel parcio am ddim.

"Mae 'na gyfle i brofi parcio am ddim - mae'n ymddangos yn bwysig, yn arbennig i'n cwsmeriaid yng Nghymru.

"Gallech gael gwahanol barthau neu amserau y gallech chi arbrofi â nhw yn ystod y dydd. Gallai hynny wella manwerthu'n sylweddol yng nghanol trefi."

Mae'n dweud ei fod eisiau cyflymu gwaith ardaloedd gwella busnes, a hefyd bod angen gwella golwg ac apêl strydoedd fawr.

"Roeddwn i mewn canol tref yng ngogledd Cymru yn ddiweddar a dywedodd rhywun bod hi 'fel Kosovo' - roedd yn edrych fel nad oedd buddsoddiad wedi bod ers y '90au. Ond mae pethau'n anodd ar y foment, mae'n anodd dweud 'na' i agor siop elusen newydd neu siop vape."

Dywedodd Ms Jones fod manwerthu yn bwysig i economi Cymru, ond nad oedd y sector ar hyn o bryd "ar frig y rhestr" o flaenoriaethau i fod yn gymwys ar gyfer prentisiaethau lefel 2.

Mae'r sector am weld arian o'r ardoll brentisiaethau - sy'n derbyn cyfraniad o fanwerthwyr ar y funud - yn cael ei wario ar brentisiaid i'r diwydiant manwerthu yng Nghymru, fel bod cyflogwyr yn gallu buddsoddi mwy mewn sgiliau a gweithwyr y dyfodol.

"Dyw pobl ifanc ddim bob amser yn gweld manwerthu fel eu dewis cyntaf o ran gyrfaoedd, ond mae'n ddiwydiant hynod meritocrataidd," meddai.

"Mae'n lle gwych i weithio, gyda chyfleoedd gwych, mae'r enillion a gewch o fod yn rhan o'r diwydiant yn rhywbeth i ymfalchïo ynddo, a rhywle bydden i'n gobeithio bydd pobl eisiau gweithio."

'Heriau sylweddol'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn parhau wedi ymrwymo i weithio'n agos gyda'r sector manwerthu er mwyn ei gynorthwyo i ymateb i'r heriau sylweddol sy'n ei wynebu, gan gynnwys cystadleuaeth ar-lein, pwysau costau ac ansicrwydd Brexit.

"Mae ein cefnogaeth yn cynnwys ehangu ein cynllun cymorth trethi busnes a'n cynllun Rhanbarthau Gwella Busnes sy'n adfywio'r Stryd Fawr.

"Mae darparu cyfleoedd am brentisiaethau ar draws Cymru yn parhau'n flaenoriaeth... rydym wedi dadlau ers tro fod ardoll Prentisiaethau Llywodraeth y DU mewn gwirionedd yn dreth sy'n anwybyddu datganoli, ac wedi llesteirio ein hymdrechion i wella lefelau sgiliau ar draws Cymru."

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol