Cyhoeddi enw beiciwr modur fu farw mewn gwrthdrawiad

Neil Powell Image copyright Llun teulu
Image caption Dywedodd teulu Neil Powell (chwith) ei fod yn feiciwr modur profiadol

Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw dyn fu farw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng car a beic modur yn Sir Fynwy ddydd Sul.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ar yr A4042 ger Llanofer am tua 15:35 ar 28 Gorffennaf.

Bu farw Neil Powell, 60 oed o ardal Caerffili, yn y fan a'r lle ar ôl i'w feic modur Honda fod mewn gwrthdrawiad â Range Rover glas.

Dywedodd teulu Mr Powell eu bod wedi colli "gŵr cariadus, tad a mab teyrngar a thaid arbennig".

Cafodd gyrrwr y car - dyn 71 oed - ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus ac mae bellach wedi ei ryddhau dan ymchwiliad.

Dywedodd Heddlu Gwent bod eu hymchwiliad yn parhau a'u bod yn parhau i apelio am dystion.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol