Cymru'n ymwrthod ag opsiwn meddwl yn greadigol PISA 2021

Pisa logo
Image caption Mae profion Pisa yn cael eu cymryd gan bobl ifanc 15 oed

Mae bwriad i eithrio Cymru o elfen meddwl yn greadigol profion addysg fyd-eang yn codi "cwestiynau difrifol", yn ôl Plaid Cymru.

Mae'r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, wedi penderfynu "na ddylai Cymru gymryd rhan" yn opsiwn meddwl yn greadigol PISA 2021.

Meddwl yn greadigol yw un o'r "mesurau perfformiad ychwanegol ar gyfer sgiliau'r 21ain ganrif" meddai PISA (Rhaglen Asesu Myfyrwyr Rhyngwladol).

Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu rhagor o wybodaeth erbyn mis Tachwedd.

Mae profion PISA - astudiaeth fawr o berfformiad addysgol - yn cael eu cymryd gan bobl ifanc 15 oed mewn tua 80 o wledydd bob tair blynedd, fel rhan o waith y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD).

Fel mewn cylchoedd blaenorol, bydd myfyrwyr yn cael eu profi mewn darllen, mathemateg a gwyddoniaeth, ond am y tro cyntaf yn 2021 gellir profi myfyrwyr mewn meddwl yn greadigol.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Byddwn yn trafod ein penderfyniad gyda'r adrannau addysg yn Lloegr a Gogledd Iwerddon cyn i benderfyniad gael ei anfon i'r OECD erbyn y dyddiad cau ym mis Tachwedd.

"Byddwn yn darparu gwybodaeth bellach ar ôl i ni ysgrifennu gyda'n gilydd i'r OECD."

'Cwestiynau difrifol'

Dywedodd llefarydd addysg Plaid Cymru Siân Gwenllian AC: "Mae'r penderfyniad hwn yn codi cwestiynau difrifol am ymagwedd y llywodraeth at y cwricwlwm newydd.

"Un o nodau'r cwricwlwm newydd yw datblygu ein pobl ifanc i fod yn feddylwyr creadigol, felly mae'n syndod nad yw'r gweinidog addysg yn dymuno bachu ar y cyfle hwn i asesu hynny nawr.

"Ai mater o ddiffyg capasiti yn y llywodraeth yw hyn? Byddai hynny'n destun pryder yn ei hun. Neu fater o ofni'r canlyniadau? Mae angen i'r gweinidog addysg esbonio ar frys."

Image caption Mae angen i'r gweinidog addysg esbonio ar frys, medd Sian Gwenllian

Dywedodd llefarydd ar ran PISA mai "meddwl yn greadigol yw 'parth arloesol' PISA ar gyfer cylch 2021.

"Y parthau arloesol yw'r asesiadau newydd rydyn ni'n eu cyflwyno ym mhob cylch i gael data rhyngwladol ar sgiliau bywyd pwysig yn ogystal â darllen, mathemateg a llythrennedd gwyddoniaeth.

"Mae'r parthau arloesol yn rhan annatod o'r asesiad PISA, ond gall y gwledydd sy'n cymryd rhan benderfynu optio allan a chymryd y prif fodiwlau PISA yn unig."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Yr Alban eu bod yn "monitro datblygiad yr opsiwn meddwl yn greadigol ar gyfer Pisa 2021 a byddwn yn gwneud penderfyniad terfynol ynghylch a ddylid cymryd rhan yn nes ymlaen".

Dywedodd llefarydd ar ran Adran Addysg San Steffan: : "Byddwn yn cadarnhau a fyddwn yn cymryd rhan yn asesiad meddwl yn greadigol PISA 2021 gyda'r OECD yn unol â'u dyddiad cau ym mis Tachwedd."

Myfyrwyr yng Nghymru oedd yr isaf o genhedloedd y DU mewn gwyddoniaeth, darllen a mathemateg ym mhrofion 2016, gan sgorio 478 mewn mathemateg, 477 mewn darllen, a 485 mewn gwyddoniaeth.

Ar ôl canlyniadau 2016 - y pedwerydd tro i Gymru wneud yn waeth na chenhedloedd eraill y DU - cyfaddefodd y prif weinidog ar y pryd, Carwyn Jones, fod y canlyniadau yn "ddarllen anghyfforddus" iddo.

Bydd cwricwlwm newydd yn cael ei gyflwyno yng Nghymru o'r feithrinfa i Flwyddyn 7 yn 2022, flwyddyn yn hwyrach na'r hyn a gynlluniwyd yn wreiddiol.

Straeon perthnasol