Cynghrair y Pencampwyr: Ludogorets 5-0 Seintiau Newydd

Scott Ruscoe Image copyright Getty Images
Image caption Mae tîm Scott Ruscoe yn wynebu tasg aruthrol os am gyrraedd y rownd nesaf

Cafodd y Seintiau Newydd gweir gan Ludogorets yng nghymal cyntaf trydedd rownd ragbrofol Cynghrair Europa ym Mwlgaria nos Iau.

Aeth y tîm cartref ar y blaen o fewn 10 munud mewn amodau anlwcus, wrth i ergyd Jordan Ikoko daro'r postyn cyn taro'r amddiffynnwr Ryan Harrington, a gwyro i'r gôl.

Dyblwyd y fantais wedi hanner awr gan Mavis Tchibota, cyn i Jody Lukoki ychwanegu trydedd cyn hanner amser.

Aeth hi o ddrwg i waeth i bencampwyr Uwch Gynghrair Cymru yn yr ail hanner, wrth i Tchibota rwydo ei ail gôl cyn i Cosmin Moți sgorio pumed gôl i Ludogorets wedi 76 munud.

Bydd yr ail gymal yn cael ei chwarae ar y Cae Ras yn Wrecsam nos Iau nesaf.

Pynciau Cysylltiedig