Gohirio gêm Morgannwg yng Nghaint oherwydd glaw

cefnogwyr yn gadael y maes Image copyright Getty Images
Image caption Cefnogwyr gwlyb yn gadael y maes yng Nghaint nos Fercher

Cafodd gêm Morgannwg yn erbyn Caint yn y T20 ei gohirio nos Fercher oherwydd y tywydd.

Mae'n golygu fod y ddau dîm yn cael pwynt yr un.

Er gwaethaf hynny, mae Morgannwg yn parhau ar waelod y tabl [tudalen BBC Sport] ac eto i ennill gêm.

Byddan nhw'n wynebu Essex oddi cartref nos Wener.

Pynciau Cysylltiedig