Etholiad Cyffredinol 'yn creu mwy o oedi'
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Etholiad yn 'creu mwy o oedi heb gynnig datrysiad'

15 Awst 2019 Diweddarwyd 13:39 BST

Byddai Etholiad Cyffredinol arall "yn creu mwy o oedi heb gynnig datrysiad", yn ôl Liz Saville Roberts AS.

Daw'r neges wedi i arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn ysgrifennu at arweinwyr rhai o bleidiau eraill San Steffan gyda chynllun i atal Brexit heb gytundeb.

Mae'r llythyr yn ceisio ennill cefnogaeth i bleidlais o ddiffyg hyder yn y llywodraeth.

Dywed mai "ein blaenoriaeth ddylai fod i gydweithio yn y senedd er mwyn atal Brexit heb gytundeb" gan orfodi Etholiad Cyffredinol ac yna refferendwm arall.

Ond mae Ms Saville Roberts o Blaid Cymru wedi dweud mai refferendwm ddylai ddod yn gyntaf, gydag Etholiad Cyffredinol i ddilyn.