Cynghrair Europa: Y Seintiau Newydd 0-4 Ludogorets

Ludogorets v Y Seintiau Newydd Image copyright Brian Jones/Y Seintiau Newydd
Image caption Roedd Y Seintiau Newydd wedi cael eu trechu o 5-0 ym Mwlgaria

Mae ymgyrch Y Seintiau Newydd yng nghystadlaethau Ewrop ar ben am y tymor ar ôl cael eu trechu gan Ludogorets yn nhrydedd rownd ragbrofol Cynghrair Europa.

Y tîm o Fwlgaria oedd yn fuddugol o 4-0 yn yr ail gymal ar y Cae Ras yn Wrecsam nos Iau, gan olygu mai 9-0 oedd y sgôr dros y ddau gymal.

Roedd pencampwyr Uwch Gynghrair Cymru wedi colli'r cymal cyntaf oddi cartref o 5-0 yr wythnos ddiwethaf.

Aeth yr ymwelwyr ar y blaen yn Wrecsam gyda gôl gan Jakub Świerczok wedi 36 munud, cyn i Jody Lukoki ddyblu'r fantais cyn hanner amser.

Sgoriodd Świerczok ei ail gôl ef, a thrydedd ei dîm, gyda chwarter awr yn weddill, cyn i Dan Biton ychwanegu pedwaredd yn y munudau olaf.

Y Seintiau oedd y tîm olaf o Gymru yn Ewrop eleni, wedi i Gei Connah, Y Barri a Met Caerdydd fynd allan yn y rowndiau rhagbrofol blaenorol.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol