Rhybudd tywydd am law trwm dros Gymru ddydd Gwener

map tywydd Image copyright Y Swyddfa Dywydd

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am law trwm ar draws Cymru gyfan ddydd Gwener.

Bydd y rhybudd yn ymestyn dros holl siroedd Cymru heblaw am Ynys Môn, ac fe fydd mewn grym rhwng 08:00 a 22:00 ddydd Gwener.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd y gallai'r tywydd garw effeithio ar deithwyr oherwydd dŵr ar y ffyrdd, ac maen nhw hefyd yn rhybuddio am lifogydd posib mewn tai a busnesau.

Daw'r rhybudd ar sodlau sawl un arall wedi mis o gawodydd, stormydd a gwyntoedd cryfion.

Wythnos yn ôl fe gafodd Maes B yn yr Eisteddfod Genedlaethol ei ganslo oherwydd tywydd garw yn Nyffryn Conwy.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol