Dynes wedi marw ar ôl cael ei tharo gan gar yn Llangollen

Stryd y Castell Image copyright Google
Image caption Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar Stryd y Castell am tua 09:40 ddydd Iau

Mae dynes wedi marw yn yr ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad gyda char yn Llangollen ddydd Iau.

Cafodd y ddynes ei chludo i Ysbyty Stoke gydag anafiadau difrifol wedi'r gwrthdrawiad ar Stryd y Castell am tua 09:40.

Ond dywedodd Heddlu Gogledd Cymru bod y ddynes wedi marw o'i hanafiadau yn ddiweddarach.

Mae teulu'r ddynes wedi cael gwybod am y digwyddiad ac mae ymchwiliad yr heddlu yn parhau.

Pynciau Cysylltiedig