'Mae'r galon wedi mynd mas o ffermio achos TB'

Image copyright David Hugh Rees
Image caption David a'i yr o wartheg yng Nghapel Isaf

Rhwng Ebrill 2018 ac Ebrill 2019, cafodd 12,000 o wartheg eu lladd yng Nghymru oherwydd TB buchol ('bovine') - cynnydd o 19% ar y 12 mis blaenorol. Mae nifer o ffermwyr yn talu'r pris yn ariannol ac yn emosiynol.

Un o'r ffermwyr hynny yw David Hugh Rees sy'n ffermio ar fferm Capel Isaf, ym mhentref Capel Dewi, Sir Gaerfyrddin, lle mae'n byw gyda'i bartner Jean a'i ferch Einir. Maen nhw wedi colli bron i 300 o wartheg yn y bedair mlynedd diwethaf.


Daeth TB i Gapel Isaf gynta' bedair mlynedd yn ôl.

Mae wedi bod yn devastating i golli cymaint o anifeiliaid ifanc. Un diwrnod gollon ni 54. O'n i'n dilyn nhw ar y beic lan yr hewl ar ôl iddyn nhw ffaelu eu profion ac o'dd dagre 'da fi yn fy llygaid.

Ni ddim yn siarad am hen dda - mae'r rhain yn ifanc i gyd, mae fel mynd â plant mas. Chi'n gweithio'n galed ar yr anifeiliaid hyn ac wedyn mae hynny'n digwydd.

Gorffes i gael pum munud i'r ochr i'n hunan. Dyna'r diwrnod gwaetha'. Mae gymaint o bobl sy' ddim yn gwybod fod hyn yn mynd 'mlaen ond dw i ishe i bobl wybod bod hyn yn digwydd yng nghefn gwlad.

Y cyfnod gwaetha'

Dw i'n ffermio erioed, tyfu lan ar fferm a heb 'neud dim byd arall. Dw i'n 60 nawr a dyma'r cyfnod gwaetha' dw i'n cofio heb os nac onibai.

Ni wedi bod yn cael profion TB bob deufis ers y diagnosis cynta' a 280 i 300 o wartheg wedi cael eu difa yn y slaughterhouse erbyn hyn.

Os oes anifeiliaid gyda chi ar loea (sy'n drwm iawn 'da llo), maen nhw'n saethu'r anifail hynny hefyd ar y clos. Mae hynny'n boenus iawn achos chi'n gweld eich anifail yn cael ei saethu er bod dim byd yn bod arno fe. Mae'r llo yn byw munudau yn unig ar ôl i'r fam cael ei saethu ac mae'n beth hyll iawn i weld.

Ar ffermydd ni'n gyfarwydd 'da anifeiliaid sy'n mynd bant am wahanol resymau ond maen nhw fel arfer yn anifeiliaid sy' wedi gwneud eu hamser ar y ffarm. Mae'n hollol wahanol i fynd â anifail ifanc - a dim jest un ond nifer.

Mae 90% o'r anifeiliaid sy'n cael eu heffeithio gan TB yn ifanc iawn o 'mhrofiad i. Mae rhai ffermydd yn gallu dod mas o TB yn syth ond mewn llefydd eraill mae'n parhau. Mae gyda ni ers pedair mlynedd ond dydyn ni ddim yn gwybod pam felly allwn ni ddim gwneud dim amdano fe.

David a'i ferch Einir Image copyright David Hugh Rees
Image caption David a'i ferch Einir

Bywyd gwyllt

Mae angen i'r Llywodraeth neud gwell job o ddelio 'da'r TB. Mae'n rhaid edrych ar y bywyd gwyllt.

Mae sefyllfa'r TB wedi gwaethygu ers fod y mochyn daear yn protected species.

Pan nad oes anifeiliaid eraill yn dod i'r fferm sy'n cael cyswllt gyda'ch anifeiliaid chi, be' arall ond moch daear sy' ar gael yn cario fe mewn?

Ni gyd yn gwybod taw moch daear yw'r gwaetha' achos mae moch daear yn pasio TB mas drwy'r urine, mae lawer mwy contagious na unrhyw anifail gwyllt arall.

Mae'r Llywodraeth yn cadw dweud bod nhw ar ben y sefyllfa ond dw i ddim yn gweld fel - mae mwy o wartheg wedi cael eu difa yng Nghymru yn y chwe mis diwethaf na ers sawl blwyddyn.

Pam saethu'r anifeiliaid maen nhw'n dweud sy'n contaminated ar y ffarm a 'neud dim byd am y bywyd gwyllt sy'n cerdded ag'ros y ffarm? Mae'n rhaid gwneud rhywbeth am y bywyd gwyllt, fel mae Lloegr ac Iwerddon wedi gwneud.

Straen emosiynol ac ariannol

Roedd 400 o bennau gyda ni cyn cael TB a nawr ni lawr i 300 a ni wedi colli bron i 300.

Yn ariannol ni'n precarious. Pan chi'n gwneud cynllun busnes mae eisiau nifer o wartheg i neud i'r ffarm dalu. Ni byth wedi gallu cyrraedd y nifer o'n ni ishe.

Dyw e ddim yn ddigon i redeg y busnes.

Yn bersonol mae'r galon wedi mynd mas o'r job ac mae'n anodd gweld sut ni'n mynd i gael e nôl.

Dyw pobl ddim yn gwybod fod y sefyllfa mor wael yng nghefn gwlad. Mae pobl yn lico gweld gwartheg yn y cae ond mae pobl yn hapus fod nhw'n cael eu difa ond s'dim byd yn digwydd i fywyd gwyllt.

Sym un ffarmwr moyn difa moch daear. Ni'n mwynhau be sy' 'da ni yng nghefn gwlad ac mae bywyd gwyllt yn ran o'r bywyd hynny. Ni ddim mo'yn difa bywyd gwyllt o gwbl ond mae rhesymau am gadw rhifau i lawr.


Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno mesurau i leihau lefel y TBmewn rhai ardaloedd, gan gynnwysdulliau llymach o reoli gwartheg a brechu moch daear.

Yn ôl Ymddiriedolaeth y Moch Daearmae'r tebygolrwydd y bydd moch daear yn trosglwyddo TB i wartheg yn isel iawn. Maen nhw o blaid brechu moch daear.

Hefyd o ddiddordeb

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol