Tryweryn: Adfywio cynlluniau am gerflun coffa?

Plant yr ysgol gyda'r cerflun Image copyright Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Ugain mlynedd wedi methiant ymgyrch i godi cofeb anferth i Dryweryn ar lan Llyn Celyn, mae diddordeb o'r newydd wedi codi yn y gwaith wrth i'r cerflun gael ei gyflwyno i blant yr ardal.

Ar ddiwedd yr 1990au, fe ddatblygodd syniad i godi cerflun efydd 28 troedfedd gan yr artist John Meirion Morris.

Fe gafodd gryn sylw ar y pryd, cafodd y mater ei godi ar lawr y Cynulliad a San Steffan ac agorwyd cronfa i gasglu £250,000 er mwyn gwneud y gwaith.

Methu wnaeth yr ymgyrch ac fe aeth y darn celf gwreiddiol - sef model ar gyfer y cerflun efydd llawn maint oedd yn cyfleu aderyn yn codi a gwarchod pobl a phlant - i'r Llyfrgell Genedlaethol i'w gadw.

Image copyright Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Image caption Bwriad gwreiddiol yr arlunydd oedd gosod y cerflun efydd maint llawn yn y llyn

Ond fe wnaeth y maquette adael Aberystwyth yn ddiweddar fel rhan o brosiect Prydeinig i ddod â phlant wyneb yn wyneb â gweithiau celf eiconig y tu mewn i'w hystafell ddosbarth.

Daw hyn ar ôl i'r gwaith gael sylw ar wefannau cymdeithasol yn sgîl fandaleiddio wal Cofiwch Dryweryn a phaentio'r slogan ar hyd a lled Cymru. Bu rhai'n galw am ailddechrau'r ymgyrch i godi cerflun maint llawn fel celf gyhoeddus wrth lan Llyn Celyn.

A dywedodd merch yr artist, Iola Edwards, wrth Cymru Fyw bod ei thad ar un adeg yn obeithiol iawn o fedru codi'r gofeb ar lan y llyn ac y byddai'n "wrth ei fodd" petai arian ar gael nawr i wireddu'r cynllun.

Cyflwyno gwaith celf i blant

Prosiect ar y cyd rhwng y Llyfrgell Genedlaethol ac elusen Art UK fu'n gyfrifol am ddod â'r model i'r ardal.

Fe gafodd disgyblion Ysgol Ffridd y Llyn, yng Nghefnddwysan ger Y Bala, ac Ysgol Bro Tryweryn, yn Frongoch, milltir i ffwrdd o'r llyn, gyfle i weld a thrafod y gwaith.

Fel rhan o'r diwrnod cynhaliwyd gweithdy celf gyda merch John Meirion Morris, Iola Edwards, sydd hefyd yn artist.

Image copyright Llyfrgell Genedlaethol Cymru

"Roeddem fel teulu yn teimlo anrhydedd mawr fod y gwaith wedi ei ddewis," meddai Iola Edwards.

"Roedd ymateb y plant yn wych, wrth drafod ac ymateb yn greadigol yn ystod y gweithdy, ac roeddwn inne'n teimlo balchder o fod ynglŷn â'r prosiect.

"Mae'n hyfryd gweld diddordeb o'r newydd yn y gofeb, roedd fy nhad wedi bod yn obeithiol iawn ar un adeg y byddai'r cerflun yn cael ei chodi fel cofeb anferthol ar lan y llyn - ei freuddwyd wreiddiol oedd ei bod yn codi o'r dŵr.

"Ond roedd problem ariannu'r gwaith yn golygu na wireddwyd y freuddwyd. Mae nifer wedi sôn ac yn awyddus yn y misoedd diwethaf am ymdrechu i ailafael yn y prosiect. Mi fyddai nhad wrth ei fodd petai unrhyw ffordd o ariannu'r gwaith, a ninnau'r teulu, yn ogystal.

"Dwi'n meddwl fod cerfluniau cyhoeddus yn bwysig o ran denu trafodaethau; mae'n rhoi llwyfan gweledol celfyddydol i bobl, na fyddai efallai, yn mentro i mewn i'r un oriel."

Image copyright Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Image caption Iola Edwards yn trafod gwaith ei thad gyda'r plant ysgol

Doedd John Meirion Morris, sy'n enedigol o'r ardal ac wedi darlithio mewn ysgolion celf yng Nghymru, Lloegr ac Affrica, ddim digon da ei iechyd i drafod y gwaith mewn cyfweliad gyda Cymru Fyw.

Fe'i ystyrir yn un o gerflunwyr amlycaf Cymru ac mae wedi gwneud penddelwau o Ray Gravell, Gwenallt a Gerallt Lloyd Owen.

Mae'n byw yn ôl yn ei ardal enedigol yn Llanuwchllyn ers nifer o flynyddoedd bellach.

Image copyright Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Image caption Roedd cerflun John Meirion Morris yn rhan o brosiect Campweithiau Mewn Ysgolion, sydd hefyd wedi benthyg gwaith gan artisitiad fel LS Lowry, Monet a Turner

Dywedodd Rhian Dafydd, pennaeth Ysgol Bro Tryweryn ac Ysgol Ffridd y Llyn, bod y disgyblion wedi elwa o'r prosiect mewn sawl ffordd.

"Roedd yn addysg i'r plant weld fel oedden ni'n trysori pethau sydd i wneud â'n hanes ni fel Cymry.

"Un o'r cwestiynau gan y plant oedd 'faint ydi ei werth o?', a ro'n i'n dweud 'ydi mae o'n werthfawr ond ei werth mwya' ydi ei fod yn drysor i ni oherwydd be' sydd wedi digwydd i ni yng Nghymru'. Roedd yn arbennig o berthnasol i ni achos mae'r llyn uwch ein pennau ni ym Mro Tryweryn a dyna pam gawsom ni ein dewis wrth gwrs.

"Roedd y plant hefyd yn sylweddoli bod modd portreadu digwyddiadau hanes trwy gelf. Mae rhywun yn tueddu i gysylltu â hanes trwy hen luniau neu hen lythyrau neu bapurau newydd, neu geiriau, ond mae posib portreadu hynny yn gelfyddydol."

"Roedden nhw hefyd yn dysgu hanes mewn ffordd wahanol, efallai efo dipyn mwy o emosiwn achos yn ymateb i'r gofeb."

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau Cysylltiedig