Agor canolfan chwaraeon dŵr gwerth £1.5m ym Mhorthcawl

Canolfan Image copyright Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Image caption Mae llwybr cerdded newydd wedi'i adeiladu hefyd er mwyn cysylltu'r ganolfan â'r traeth.

Bydd canolfan chwaraeon dŵr gwerth £1.5m yn cael ei hagor yn swyddogol ym Mhorthcawl ddydd Gwener.

Dywedodd y dirprwy weinidog diwylliant, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas bod yr atyniad newydd yn allweddol wrth wneud Cymru'n "lleoliad arfordirol blaenllaw".

Mae'r ganolfan newydd wedi'i hadeiladu'n benodol ar gyfer syrffwyr, canŵ-wyr a phadlfyrddwyr, yn ogystal â seiclwyr a cherddwyr.

Bydd Ysgol Syrffio Porthcawl â chartref yn yr adeilad newydd, ynghyd â chaffi a lle i logi beiciau.

Image copyright Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Image caption Mae'r ganolfan wedi costio £1.5m i'w hadeiladu

Mae llwybr cerdded newydd wedi'i adeiladu hefyd er mwyn cysylltu'r ganolfan â'r traeth.

Mae'r adeilad yn cynnwys ystafelloedd newid ac yn cynnig gwersi chwaraeon dŵr trwy'r flwyddyn.

Pynciau Cysylltiedig