Dyn wedi marw ar ôl gwrthdrawiad tri cherbyd yn Abertawe

Pentreguinea Road
Image caption Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar Ffordd Pentreguinea, Abertawe, nos Iau

Mae plismyn wedi cadarnhau bod dyn wedi marw ar ôl gwrthdrawiad rhwng tri char yn Abertawe.

Cafodd swyddogion eu galw i Ffordd Pentreguinea yn ardal St Thomas am tua 22:30 nos Iau.

Roedd tri cherbyd yn gysylltiedig â'r gwrthdrawiad - MG ZR, BMW 1 Series a Toyota Celica - a bu farw gyrrwr yr MG o ganlyniad i'w anafiadau.

Bu ffordd yr A4217 ar gau am wyth awr ond mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau ei bod hi bellach wedi ailagor.

Mae teulu'r dyn fu farw yn cael cefnogaeth gan yr heddlu ac mae cais i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â'r heddlu.

Pynciau Cysylltiedig