Dylai'r DU 'fod yn agored' i Gymru annibynnol

Baner Cymru Image copyright Getty Images
Image caption Dywedodd Llywodraeth Cymru bod y DU yn well fel "cynghrair wirfoddol".

Mae'n rhaid i'r DU "fod yn agored i unrhyw ran ohoni ddewis yn ddemocrataidd i ymadael â'r Deyrnas Unedig", yn ôl adroddiad gan Lywodraeth Cymru.

Dywed gweinidogion y dylai San Steffan adael i Gymru gynnal refferendwm petai gwleidyddion sy'n cefnogi annibyniaeth ennill etholiad Cynulliad.

Mae'r Llywodraeth Lafur, sy'n cefnogi aros o fewn yr undeb, yn gobeithio y byddai pleidleiswyr yn gwrthod annibyniaeth, ond yn dweud bod y DU - ar y gorau - yn cael ei gweld fel "cynghrair wirfoddol o genhedloedd".

Mae'r adroddiad yn dilyn cyfres o orymdeithiau annibyniaeth ar draws Cymru yn y misoedd diwethaf.

Undeb dan straen

Mae'r Prif Weinidog, Mark Drakeford yn galw am "setliad datganoli sefydlog ac estynedig" i fynd i'r afael â heriau maen ei nodi i'r undeb.

Wrth draddodi darlith Kier Hardie ym Merthyr Tudful ddydd Iau, dywedodd: "Mae parhad y DU, heddiw, dan fwy o straen nag yn ystod fy oes wleidyddol i."

Image copyright Getty Images
Image caption Yn ôl Mark Drakeford, fe bwysleisiodd bod yr undeb dan fwy o straen nag erioed wrth Boris Johnson pan ymwelodd â Chaerdydd yn yr haf.

Roedd darlith Mr Drakeford yn cyd-fynd â chyhoeddi'r ddogfen 'Diwygio Ein Hundeb', sy'n amlinellu'r newidiadau cyfansoddiadol angenrheidiol, ym marn Llywodraeth Cymru, i sicrhau dyfodol cynaliadwy i'r undeb.

Mae'r ddogfen yn datgan: "Os... yr ystyrir y DU fel cynghrair wirfoddol o genhedloedd, rhaid iddi fod yn agored i unrhyw ran ohoni ddewis yn ddemocrataidd i ymadael â'r DU.

"Pe na fyddai hyn yn digwydd, mae'n bosibl y gallai cenedl fod yn rhwymedig i'r DU yn erbyn ei hewyllys, sefyllfa a fyddai yn annemocrataidd ac yn anghyson â'r syniad o Undeb sy'n seiliedig ar werthoedd a buddiannau a rennir."

'Dylid canolbwyntio ar ddyfodol Cymru'

Yng nghyd-destun Cymru a'r Alban, mae'r ddogfen yn ychwanegu: "Ym marn Llywodraeth Cymru, ar yr amod bod llywodraeth yn y naill wlad neu'r llall wedi sicrhau mandad etholiadol pendant ar gyfer cynnal refferendwm, a bod ei senedd yn parhau i'w chefnogi i wneud hynny, mae hawl ganddi ddisgwyl i Senedd y DU gymryd y camau sy'n angenrheidiol i sicrhau bod modd gwneud y trefniadau priodol."

Ond mae'n dweud "y byddai'n afresymol cynnal refferenda o'r fath yn rhy aml".

Image caption Mae nifer o orymdeithiau annibyniaeth wedi eu cynnal yn y misoedd diwethaf, gan gynnwys un yng Nghaernarfon

"Yn bwysicach na hynny, fel llywodraeth sydd wedi ymrwymo i'r DU, mewn unrhyw refferendwm o'r fath, byddem yn gobeithio mai pleidleisio o blaid gweld eu tiriogaeth yn parhau'n aelod o'r DU a wnâi'r etholwyr perthnasol."

Dywedodd Mr Drakeford hefyd yn y ddarlith bod angen "cydnabyddiaeth glir, gyfreithiol" bod Cynulliad Cymru'n "rhan barhaol o bensaernïaeth ddemocrataidd y DU", sydd ond yn bosib ei diddymu trwy refferendwm.

Yn ôl arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, does "dim amheuaeth y dylai Cymru allu cynnal refferendwm annibyniaeth".

"Mae'n siomedig - os nad yn syndod - bod Llywodraeth Lafur Cymru'n parhau i amddiffyn yr undeb ddigyfiawnhad yma... dylai Llywodraeth Cymru ganolbwyntio ar godi Cymru' dyfodol, nid achub yr undeb."

Straeon perthnasol