Moldova dan 21 2-1 Cymru dan 21

Nathan Broadhead Image copyright Rex Features
Image caption Nathan Broadhead sgoriodd unig gôl Cymru o'r gêm

Mae tîm pêl-droed dan-21 Cymru wedi cael ergyd yn eu gobeithion o gyrraedd rowndiau terfynol Euro 2021 ar ôl colli oddi cartref ym Moldova ddydd Gwener.

Cymru ddechreuodd y gêm orau, a daeth y gôl gyntaf diolch i Nathan Broadhead - sydd ar fenthyg o Everton yn Burton Albion - yn penio cic gornel Dylan Levitt i gefn y rhwyd wedi 24 munud.

Yn syth wedi sgorio roedd tîm Paul Bodin yn pwyso am eu hail gôl a bu bron i Robbie Burton ddyblu mantais Cymru gyda pheniad aeth dros y trawst.

Tri munud cyn yr egwyl fe wnaeth Moldova unioni'r sgôr. Gwrthymosodiad yn erbyn llif y chwarae a Alexandr Belousov yn sgorio.

Fe wnaeth Cymru ildio cic o'r smotyn dau funud fewn i'r ail hanner, Belousov unwaith eto i'r tîm cartref yn sgorio gyda'r gic.

Ond chwe munud yn ddiweddarach roedd Moldova lawr i ddeg dyn ar ôl i Cristian Ursu dderbyn ei ail gerdyn melyn o'r gêm.

Er gwaethaf y pwysau ar amddiffyn Moldova, ni lwyddodd Cymru i sgorio eu hail a daeth y gêm i ben gyda chanlyniad siomedig i Gymru sy'n eu gadael yn bedwerydd yng Ngrŵp I wedi tair gêm.

Straeon perthnasol