Cerddwraig wedi ei hanafu yn Eryri

Tîm Achub Mynydd Aberglaslyn Image copyright Tîm Achub Mynydd Aberglaslyn
Image caption Dywed Tîm Achub Mynydd Aberglaslyn fod yr amgylchiadau nos Wener yn 'anodd iawn'

Fe gafodd cerddwraig ei chludo i'r ysbyty mewn hofrennydd ar ôl torri ei choes mewn tywydd garw yn Eryri.

Aeth y ddynes i drafferthion wrth gerdded lawr o Fynydd Sygyn, ger Beddgelert, am 18:00 nos Wener.

Fe wnaeth Tîm Achub Mynydd Aberglaslyn alw am gymorth hofrennydd gwylwyr y glannau er mwyn cludo'r ddynes o'r mynydd.

Fe wnaeth aelodau'r tîm, drwy gymorth rhaffau, hefyd gynorthwyo tri o gerddwyr eraill lawr o'r mynydd.

Aed â'r ddynes si Ysbyty Gwynedd, Bangor ar gyfer triniaeth i'w hanaf.