Pro14: Scarlets 54-10 Zebre

Kieran Hardy goes over for Scarlets' first try Image copyright Huw Evans Agency
Image caption Kieran Hardy yn sgorio ar ôl dau funud o'r chwarae

Fe wnaeth y Scarlets sicrhau pwynt bonws o fewn hanner awr wrth chwalu Zebre yn Llanelli.

Daeth ceisiau i Kieran Hardy, Josh Macleod a Ryan Conbeer groesi cyn i Marco Manfredi daro nôl.

Ond yna daeth ail gais Hardy, ynghyd â'r pwynt bonws gan roi mantais i'r Scarlets o 26-10 ar yr egwyl .

Roedd rhagor i ddod, gyda Taylor Davies, Johnny McNicholl (2) a Josh Helps yn dod â'r cyfanswm ceisiau i wyth.

Dechrau da i'r tymor i hyfforddwr newydd y Scarlets, Brad Mooar, gyda'i dîm yn ennill eu tair gêm hagoriadol yn y Pro14.

Pynciau Cysylltiedig