Myfyrwyr o Ganada yn dod i ddysgu bod yn athrawon

Plant mewn dosbarth Image copyright Getty Images
Image caption Un rheswm pam bod y myfyrwyr o Ganada yn dod i Gymru yw'r ffaith eu bod yn cael profiad ymarferol yn y dosbarth

Mae un o brifysgolion Cymru wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer y bobl o Ganada sydd yn dewis dod draw i wneud eu cyrsiau i hyfforddi bod yn athrawon yng Nghymru.

Ers 2012 mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi bod yn denu pobl o'r wlad i astudio yn y brifddinas. Pump ddaeth i wneud y cyrsiau TAR (Tystysgrif Addysg i Raddedigion) y flwyddyn honno ond roedd y ffigwr eleni yn 65.

Dyw'r un patrwm ddim i'w weld mewn prifysgolion eraill sydd yn cynnig y cyrsiau TAR.

Yn ôl Emma Thayer, sydd yn arwain y cwrs uwchradd drama yn y brifysgol, mae'r mwyafrif o Ontario ac mae sawl rheswm pam eu bod yn dewis dod, gan gynnwys enw da'r cyrsiau a'r ffaith bod y cyrsiau dysgu yng Nghanada yn hirach.

Lledu'r gair

"O safbwynt y cynnydd mewn momentwm mae'r gair yn lledaenu," meddai. "Un o'r prif resymau ydy bod cyn fyfyrwyr yn lledu'r gair. Maen nhw mewn gwirionedd yn llysgenhadon ar gyfer ein cyrsiau i Gymru, Caerdydd, ein hysgolion a'r system addysg.

"Dwi'n credu eu bod nhw'n mynd yn ôl adref neu yn ymwneud gyda phlatfformau cyfryngau cymdeithasol ac yn siarad am y profiad gwych maen nhw wedi cael."

Image caption Mae'n destun "balchder", medd Emma Thayer o'r brifysgol, bod myfyrwyr o Ganada'n dewis dod i astudio i fod yn athrawon yng Nghymru

Mae'r brifysgol yn cydweithio gydag asiantaethau rhyngwladol er mwyn hybu'r cyrsiau yng Nghanada ac yn mynd draw yno ddwywaith y flwyddyn i farchnata eu hunain.

Yr un yw'r broses recriwtio ar gyfer y myfyrwyr rhyngwladol â'r rhai o Brydain ac maent yn medru trosglwyddo'r cymhwyster i allu gweithio fel athrawon yn eu mamwlad.

Ond mae rhai yn dewis aros yng Nghymru medd Emma Thayer.

"Mae'r dystiolaeth yn awgrymu bod cyn fyfyrwyr yn aros yng Nghymru. Yn anecdotaidd mae yna fyfyriwr o Ganada lawr y lôn mewn ysgol yng Nghaerdydd sydd yn ei ail flwyddyn yn yr adran gerdd yno."

'Mwy o amser'

Un fenyw ifanc sydd newydd ddechrau'r cwrs ym mis Medi yw Hailey Deller-Hadzi. Mae'n falch ei bod wedi dewis dod i Gymru i astudio gan ddweud bod y cwrs dysgu yn para dwy flynedd nôl adref o gymharu gyda blwyddyn yng Nghaerdydd.

"Mae llawer mwy o amser yn dysgu ar leoliadau yma, a 'dwi'n credu'n gryf mai'r ffordd orau i ddysgu yw bod wedi trochi yn yr awyrgylch y byddwch chi yn gweithio ynddo," meddai.

"Hefyd rydyn ni wedi cael gwybod bod nifer o'r ysgolion yn fy nhalaith i, Ontario yn streicio felly fyddan nhw ddim yn cymryd myfyrwyr i'w dosbarthiadau.

"Felly i'r myfyrwyr yma, mae'n bosib y bydd hi'n cymryd tair blynedd iddyn nhw gymhwyso am nad ydyn nhw yn gwneud eu horiau."

Image caption Mae wedi bod yn help er mwyn setlo yng Nghymru bod myfyrwyr eraill o Ganada yn gwneud y cwrs, medd Kiley Gosselin

Elfen ymarferol y cwrs wnaeth apelio at Kiley Gosselin hefyd, sy'n dweud bod y gost ariannol tua'r un peth â phe byddai wedi aros yng Nghanada. £10,00 yw'r ffïoedd i'r myfyrwyr eleni.

"Mae'n debyg o safbwynt y gost, efallai ychydig yn fwy drud ar gyfer y flwyddyn. Ond mae'n rhaid i chi gymryd i ystyriaeth y bydda i yn gallu gweithio am flwyddyn ychwanegol hefyd."

Mae'r brifysgol yn cynnig 25 awr o wersi Cymraeg y flwyddyn i bawb sy'n gwneud y cyrsiau, waeth pa mor rhugl ydynt.

"Yn y sesiynau yma 'dan ni yn cyflwyno iaith, cyflwyno methodoleg," meddai Dr Gina Morgan sydd yn diwtor Cymraeg yn y brifysgol.

"Mae'n dibynnu wedyn ym mha sector mae'r myfyriwr yn hyfforddi, a 'dan ni yn teilwra ein darpariaeth ar gyfer gofynion y sector yn y pwnc ac yn y blaen."

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Yn ôl Dr Gina Morgan mae'n "bleser" dysgu'r myfyrwyr rhyngwladol

Mae nifer o'r myfyrwyr tramor yn siarad mwy nag un iaith yn barod cyn dod i Gymru, meddai.

"Mae'n bleser cael eu cwmni nhw achos maen nhw yn deall pwysigrwydd dwyieithrwydd, codi sgiliau iaith a gwneud y cysylltiadau rhwng ieithoedd gwahanol."

Yn araf deg mae Kiley Gosselin yn dechrau dysgu'r iaith.

"Rydyn ni fod i gynnwys cymaint o Gymraeg â phosib i mewn i'n gwersi. Fe fyddai yn dysgu Bioleg. Felly mae gen i restr o eiriau Bioleg yn Gymraeg.

"Fe fyddai yn trio cynnwys y rhain yn y wers ychydig bach. Mae'n ddiddorol iawn, trio dysgu'r iaith ychydig bach, gwneud yn siŵr bod myfyrwyr yn deall pa mor bwysig yw'r iaith."