Y Wladfa: Llwyddiant neu fethiant?

Dawnsio gwerin yn un o seremonïau Gorsedd Eisteddfod y Wladfa 2019 Image copyright Iestyn Hughes
Image caption Mae'r Gymraeg yn dal i'w chlywed yn y Wladfa ac Eisteddfod yn cael ei chynnal yno bob blwyddyn

A fu'r syniad o sefydlu'r Wladfa Gymreig ym Mhatagonia yn llwyddiant neu fethiant?

Dyna un o'r cwestiynau roedd rhai o drigolion cymuned Gymraeg yr Ariannin yn ei drafod mewn rhifyn arbennig o'r rhaglen Hawl i Holi ar Radio Cymru oedd yn dod o'r Gaiman ym Mhatagonia.

Daeth mudwyr o Gymru i'r Ariannin dros 150 mlynedd yn ôl er mwyn gallu sefydlu 'Cymru newydd' lle gallen nhw fyw bywyd yn Gymraeg a dianc rhag dlodi eu bywydau yng Nghymru.

Roedd un aelod o'r gynulleidfa, Siôn Davies, yn credu y byddai'r "tadau cynnar" yn "falch iawn" o'r sefyllfa heddiw.

"Mae rhai o'u breuddwydion gwreiddiol yn dal i fynd, fel yr iaith, y traddodiadau, y ffydd, y capeli ar agor - mi fuasen nhw yn hapus iawn dwi'n credu," meddai.

'Breuddwyd'

Dywedodd un o'r panelwyr, Luned Gonzales, sy'n byw yn y Gaiman, nad oedd hi mor siŵr fod y nod o greu talaith Gymraeg wedi llwyddo.

"Roedden nhw'n gobeithio gallu cael popeth drwy gyfrwng y Gymraeg," meddai.

"Ac yma yn y Gaiman pan sefydlwyd y cyngor mi oedd dogfennau'r cyngor yn y ddwy iaith am amryw o flynyddoedd. Wrth gwrs wedyn roedden nhw yn Sbaeneg yn unig. Digwyddodd yr un peth efo'r ysgolion.

"Felly roedd y breuddwyd yna o dalaith Gymraeg ddim wedi cael ei wireddu.

"Ond mae breuddwyd y gymuned Gymreig wedi bod yn llwyddiant dwi'n meddwl," ychwanegodd.

Image caption Dewi Llwyd a phanelwyr Hawl i Holi o'r Gaiman, Ariannin: Esyllt Nest Roberts, y Parch Eirian Wyn Lewis, Luned Gonzales ac Edith MacDonald

Roedd Esyllt Nest Roberts, sydd o Bwllheli yn wreiddiol ond bellach yn byw gyda'i theulu yn y Gaiman, yn credu bod modd gweld parhad yr iaith o fewn y gymuned fel llwyddiant hefyd.

"Roedd 'na rai yn darogan tranc yr iaith erbyn pumdegau'r ganrif ddiwethaf ond rydan ni'n dal yma," meddai.

"'Dan ni'n dal yn ei siarad hi, mae'n rhaid edrych ymlaen yn hytrach nag edrych yn ôl dwi'n meddwl."

Euogrwydd am hawlio tir?

Ond awgrymodd Ivonne Evans nad oedd y gwladfawyr o Gymru wedi bod yn "hollol gyfiawn" gyda brodorion gwreiddiol y wlad wrth ymateb i sylw gan y cyflwynydd, Dewi Llwyd.

"Oedd yna unrhyw euogrwydd yn y genhedlaeth a fu eu bod nhw i bob pwrpas wedi hawlio tir oedd yn eiddo i bobl eraill?" oedd cwestiwn Dewi Llwyd iddi.

Roedd cymuned grwydrol frodorol eisoes yn byw yn Nyffryn Chubut pan gafodd y Cymry ganiatâd i ymsefydlu yno gan lywodraeth Ariannin.

Dywedodd Ivonne Evans bod ei theulu hi wedi bod yn rhan o gynllun gan y llywodraeth i roi ffermydd i bobl oedd yn ymsefydlu yno.

Image caption Mae 'Rhyd yr Indiaid' yn enw ar dref ac ardal yn Nhalaith Chubut

"Dwi'n cofio fy nhaid yn ymfalchïo nad oedd unrhyw was, boed o unrhyw dras, wedi bwyta ar wahân i'r teulu erioed a llawer ohonyn nhw wedi dysgu Cymraeg," meddai.

"Ond, ar y llaw arall, ddaru dim un o nheulu i ddysgu iaith y brodorion.

"Felly yn fy nghenhedlaeth i, lle dwi'n edrych ar fywyd yn wahanol ac wedi cael y cyfle o edrych ar fy ngwlad o'r tu allan, dwi'n sylweddoli nad ydyn ni wedi bod yn hollol gyfiawn gyda'r brodorion."

Dywedodd fod hynny wedi digwydd oherwydd "tlodi, caledi bywyd - doedd ganddyn nhw fawr ddim byd arall i'w wneud [ond ffermio'r tir i wneud bywoliaeth]" ond hefyd ffordd o fyw y brodorion gwreiddiol oedd yn "symud o un lle i'r llall".

"Doedden nhw ddim yn ymwybodol eu bod nhw'n eu cau nhw allan rywffordd wrth ffermio," meddai.

Dylanwad ar y dalaith

Roedd Ivonne Evans yn credu bod penderfynu a oedd y Wladfa wedi bod yn llwyddiant neu fethiant yn dibynnu sut mae rhywun yn edrych ar y peth.

"Ydi ar bob cyfri mae wedi bod yn llwyddiant achos drwy ddylanwad ar y dalaith mae dylanwad ar y wlad," meddai.

"Mae Ariannin yn wlad newydd a phobl o bob cenedl yn dod i ymsefydlu yma...

Image caption Am y tro cyntaf, roedd Hawl i Holi yn cael ei gynnal yn Y Wladfa

"Dwi'n bedwerydd cenhedlaeth ac yn falch iawn fy mod i, nid yn unig yn siarad Cymraeg ond bod daliadau ac egwyddorion ac arferion Cymru yn treiddio i mewn i gymdeithas talaith arbennig sydd yn unigryw tu fewn i'r wlad.

"Mae 'na lawer o bethau eraill baswn i wedi licio'u gweld yn digwydd - fyswn i'n licio bod egwyddorion y Cymry yn treiddio mewn i fyd gwleidyddiaeth ac yn economaidd ond mi ddaw maes o law.

"Dydi o ddim yng nghymeriad y Cymry ddaeth yma i fynd i fewn i'r agweddau yna... 'dan ni wedi cadw tu fewn i'r celfyddydau yn hytrach na bod yn ymarferol yn arweiniad y wlad."

Geni diwylliant newydd

Ond roedd Rebeca White, prifathrawes ysgol Gymraeg, nad yw o dras Gymreig, yn credu bod breuddwyd y gwladfawyr cynnar wedi bod yn "llwyddiant hynod".

"Mae diwylliant, ffydd a iaith wedi aros yma ac mae'r wlad wedi mabwysiadau pethau fel eisteddfodau... Pan mae dau ddiwylliant yn dod at ei gilydd i fyw mewn hedd mae diwylliant arall yn cael ei eni. Dwi'n meddwl fod llwyddiant wedi bod yn menter y Cymry cyntaf yma."

Gallwch wrando ar y drafodaeth lawn ar raglen Hawl i Holi, BBC Radio Cymru

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau Cysylltiedig