Cymru 'am wneud y cefnogwyr yn prowd'
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Ken Owens: Cymru 'am wneud y cefnogwyr yn prowd'

23 Hydref 2019 Diweddarwyd 08:30 BST

Mae bachwr Cymru, Ken Owens wedi dweud bod y garfan yn ymwybodol o'r gefnogaeth sydd i'r tîm, a'u bod am eu gwneud yn falch yng Nghwpan Rygbi'r Byd.

Bydd Cymru'n herio De Affrica yn rownd gynderfynol y gystadleuaeth ddydd Sul, gyda Lloegr yn herio Seland Newydd yn y gêm arall.

Dywedodd Owens, er bod y garfan weithiau'n teimlo fel eu bod "mewn bybl" yn Japan oherwydd y gwahaniaeth amser gyda Chymru, eu bod yn "gwybod bod y gefnogaeth 'na".

Ychwanegodd bod "y gefnogaeth gartre' a mas 'ma wedi bod yn grêt" wrth baratoi am y gêm dyngedfennol ddydd Sul.