Gareth Davies eisiau 'creu bach o hanes'
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Gareth Davies eisiau 'creu bach o hanes' ddydd Sul

25 Hydref 2019 Diweddarwyd 07:43 BST

Mae Gareth Davies wedi yn dweud mai'r gêm yn erbyn De Affrica yn rownd gynderfynol Cwpan Rygbi'r Byd fydd gêm fwyaf ei yrfa hyd yn hyn.

Fe fydd y gêm ddydd Sul yn garreg filltir bwysig i'r mewnwr, fydd yn ennill ei 50fed cap dros ei wlad yn Yokohama.

Dywedodd wrth gynhadledd i'r wasg ddydd Gwener ei fod ef a gweddill y garfan yn gobeithio "creu bach o hanes" a chyrraedd y rownd derfynol.

Mae Cymru wedi gwneud tri newid i'r tîm drechodd Ffrainc yn rownd yr wyth olaf, gyda Jonathan Davies, Leigh Halfpenny a Ross Moriarty yn dod i'r 15 fydd yn dechrau.