Rhaid rhyddhau manylion grant pensiwn gweithwyr dur

Rali yn 2016 Image copyright Getty Images

Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru ryddhau manylion ynglŷn â grant o £118,000 a roddwyd i gwmni sy'n gysylltiedig â sgandal pensiynau Dur Prydain.

Gwrthododd y Comisiynydd Gwybodaeth honiadau y byddai gwneud hynny'n niweidio buddiannau masnachol cwmni Celtic Wealth Management.

Yn 2014 ailstrwythurodd cwmni dur Tata ei bot pensiwn o £14bn - gyda Llywodraeth y DU yn dweud iddi fethu ag amddiffyn 124,000 o aelodau rhag "sgandal cam-werthu".

Roedd gweithwyr Tata wedi honni eu bod wedi cael cyngor gwael i symud oddi wrth Gynllun Pensiwn Dur Prydain ar ôl i'r cynllun gael ei wahanu o'r busnes.

Roedd Celtic Wealth Management o Bontarddulais yn un o'r cwmnïau ddaeth dan y lach.

Yn dilyn cais Deddf Rhyddid Gwybodaeth (FOI) gan newyddiadurwr o BBC Cymru, gwrthododd Llywodraeth Cymru ryddhau manylion y grant a roddodd i'r cwmni.

Ond mae'r Comisiynydd Gwybodaeth bellach wedi gorchymyn i'r llywodraeth wneud hynny erbyn mis Tachwedd.

Beth yw hanes y sgandal?

Collodd llawer o weithwyr dur symiau sylweddol o arian dros y cyngor a roddwyd iddyn nhw'n ddiweddarach i drosglwyddo eu pensiynau.

Roedd Celtic Wealth Management yn un o'r cwmnïau oedd yn derbyn arian gan gynghorwyr ariannol am gyfeirio'r aelodau yma atyn nhw.

Galwodd pwyllgor yn Nhŷ'r Cyffredin gwmnïau o'r fath yn "fwlturiaid" a "pharasitiaid" yn ei adroddiad i'r sgandal.

Image copyright Getty Images

Dywedodd Celtic Wealth Management y byddai'n "annhebygol iawn" y byddai'n "goroesi fel busnes" pe bai'r manylion am y grant yn cael eu rhyddhau.

Dadleuodd Llywodraeth Cymru y byddai'n golygu rhoi "gwybodaeth fasnachol sensitif" yn y "parth cyhoeddus" a fyddai o fudd i gystadleuwyr y cwmni.

Ond daeth y Comisiynydd Gwybodaeth i'r casgliad bod Llywodraeth Cymru wedi methu â dangos "cysylltiad achosol clir" rhwng rhyddhau'r manylion a difrod posibl i fuddiannau masnachol y cwmni.

Daeth y dyfarniad i'r casgliad hefyd fod Llywodraeth Cymru wedi gwrthddweud ei hun.

"Roedd yn dadlau nad oedd y wybodaeth a ddaliwyd yn ôl yn cynnwys unrhyw beth a fyddai'n taflu goleuni ar ddulliau busnes CWM ac y byddai'r datgeliad mor niweidiol i enw da CWM fel y byddai'n debygol o fygwth goroesiad iawn y cwmni," dywed y penderfyniad.

Dadleuodd y dyfarniad nad oedd unrhyw beth yn y wybodaeth a ddaliwyd yn ôl i awgrymu bod unrhyw un o'r rhai a gymerodd ran wedi ymddwyn yn amhriodol.

Cytunodd Llywodraeth Cymru, y Comisiynydd Gwybodaeth a BBC Cymru na ddylid rhyddhau unrhyw ddata personol.

Mae'r Comisiynydd Gwybodaeth wedi dweud wrth Lywodraeth Cymru i ryddhau'r manylion, gydag unrhyw wybodaeth bersonol yn cael ei golygu, erbyn canol mis Tachwedd.

Mae gan Lywodraeth Cymru hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad.

Straeon perthnasol