Pro14: Munster 28-12 Gweilch

James Cronin yn sgorio cais cyntaf Munster Image copyright Rex Features
Image caption James Cronin yn sgorio cais cyntaf Munster

Cafodd y Gweilch eu curo 28-12 yn y Pro14 wedi i Munster sgorio pedair cais mewn gêm gyffrous yn Cork.

Daeth holl bwyntiau'r Gweilch yn sgil ciciau cosb Luke Price.

Roedd dau o'r rheiny yn yr hanner cyntaf, wnaeth sicrhau mai dim ond un pwynt oedd yn gwahanu'r ddau dîm ar yr egwyl, gyda'r tîm cartref 7-6 ar y blaen,

Cafodd Sam Cross ei anfon i'r gell gosb yn yr ail hanner, ond bu'n rhaid i Munster frwydro cyn sicrhau pwynt bonws wedi i Arno Botha sgorio'u pedwerydd cais yn hwyr yn y gêm.

Roedd disgwyl i'r gêm fod yn her i'r Gweilch oherwydd anafiadau ac absenoldeb nifer o chwaraewyr sydd gyda'r garfan genedlaethol yn Japan ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd.

Bu'n rhaid gwneud dau newid ar yr asgell, gyda Hanno Dirksen a Tom Williams yn lle Luke Morgan a Keelan Giles.

Pynciau Cysylltiedig