Pro14: Ulster 23-14 Gleision

Luke Marshall yn sgorio cais cyntaf Ulster yn erbyn y Gleision Image copyright Inpho
Image caption Luke Marshall yn sgorio cais cyntaf Ulster yn erbyn y Gleision

Collodd y Gleision o 23-14 oddi cartref yn erbyn Ulster yn y Pro 14 er gwaethaf dau gais yn yr ail hanner gan Aled Summerhill a Will Boyde.

Fe fyddai Jarrod Evans wedi sicrhau pwynt bonws haeddiannol petai cic gosb hwyr heb fynd yr ochor anghywir o'r postyn.

Ond roedd llawer o'r niwed wedi ei achosi yn ystod hanner cyntaf rhwystredig a welodd y Gleision yn ildio ceisiau cymharol hawdd.

A'r sgôr yn 17-0 ar yr egwyl, roedd gan y Gleision fynydd i'w ddringo.

Roedd yna gwestiwn ynghylch y ffordd y pasiodd Matthew Morgan y bêl yn y symudiad arweiniodd at gais Sumerhill ond dywedodd y dyfarnwr fideo bod y cais yn sefyll.

Roedd hynny'n hwb i'r tîm o Gymru wrth iddyn nhw gynyddu'r pwysau mewn gêm oedd yn fwyfwy blêr.

Sgoriodd John Cooney 13 o bwyntiau i Ulster gyda chiciau cosb gan sicrhau bod y bwlch yn rhy fawr a bu'n rhaid i'r Gweilch adael Belffast yn waglaw.

Pynciau Cysylltiedig