Y Cymro Cymraeg sy'n cefnogi De Affrica
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Y Cymro Cymraeg sy'n cefnogi gwrthwynebwyr Cymru

26 Hydref 2019 Diweddarwyd 08:52 BST

Bydd Huw Bryant yn cefnogi De Affrica, ac nid Cymru, yng ngêm gynderfynol Cwpan Rygbi'r Byd yn Yokohama ddydd Sul.

Mae hynny am mai yn Cape Town y cafodd e a'i frawd eu geni, cyn i'w rieni Cymreig benderfynu symud yn ôl i Gymru i fagu eu teulu.

Mae'n cydnabod ei fod wedi treulio mwy o amser yng Nghymru nag yn Ne Affrica, ond mae'n "dala lan i'r gwreiddie", er bod hynny'n gallu drysu "a weindio cwpl o bobl lan" ar brydiau pan fo'r ddau dîm yn wynebu ei gilydd.