Pro14: Dreigiau 18-5 Glasgow Warriors

Ashton Hewitt Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Ashton Hewitt sgoriodd ail gais y Dreigiau yn y gwynt a'r glaw

Enillodd Dreigiau eu gêm gyntaf yn erbyn Glasgow yn y Pro14 ers 2014 ar Rodney Parade ddydd Sadwrn.

Fe wnaeth y tîm cartref ymestyn eu mantais o 18-0, cyn i'r ymwelwyr daro'n ôl gyda chais gysur i'r canolwr Huw Jones yn yr eiliadau olaf.

Taine Basham a Ashton Hewitt wnaeth groesi i'r Dreigiau, gyda chicio Sam Davies yn profi'n bwysig hefyd mewn amodau anodd.

Hon oedd buddugoliaeth gartref gyntaf Dean Ryan ers iddo ymuno â'r Dreigiau fel cyfarwyddwr rygbi ym mis Mai.

Dreigiau:

J Williams; O Jenkins, Warren, Dixon, Hewitt; S Davies, R Williams (capt); Harris, Hibbard, Brown, J Davies, Screech, H Taylor, Basham, Griffiths.

Eilyddion: Lawrence, Reynolds, Fairbrother, M Williams, Benjamin, Baldwin, Robson, T Morgan.

Glasgow Warriors:

Bryce, Steyn, Grigg, McDowall, Matawalu, Thomson, Frisby, Kebble, Stewart, Nicol, Harley, McDonald, Ashe, Gibbons (capt), M Fagerson.

Eilyddion: Matthews, Allan, Rae, Davidson, Fusaro, Dobie, Jones, Jackson.

Pynciau Cysylltiedig