Adran Dau: Colchester 3-1 Casnewydd

Courtney Senior Image copyright Rex Features
Image caption Courtney Senior seliodd y fuddugoliaeth i Colchester, sy'n codi i'r nawfed safle

Mae Casnewydd yn parhau yn y safleoedd ail-gyfle er gwaethaf colli oddi gartref ddydd Sadwrn.

Er hynny, yr ymwelwyr aeth ar y blaen gyda Tristan Abrahams yn rhwydo o groesiad Josh Sheehan wedi pum munud yn unig.

Ond fe ddaeth Colchester yn ôl yn gryf, gyda Ryan Jackson, Ben Stevenson a Courtney Senior yn selio'r fuddugoliaeth i'r tîm cartref.

Mae'r canlyniad yn golygu fod tîm Mike Flynn yn y seithfed safle yn Adran Dau.