Pro14: Caeredin 46-7 Scarlets

Duhan van der Merwe yn dathlu sgorio cais i Gaeredin Image copyright SNS
Image caption Duhan van der Merwe yn dathlu sgorio cais i Gaeredin

Fe sgoriodd Duhan van der Merwe dri chais wrth i Gaeredin ddod a rhediad y Scarlets o beidio colli eto'r tymor hwn i ben.

Yn dilyn dau gais gan Van der Merwe fe diriodd Mike Willemse a Mark bennett i sicrhau pwynt bonws i'r tîm cartref cyn hanner amser.

Daeth pum pwynt y Scarlets diolch i gais Marc Jones wedi awr o chwarae.

Ond sgoriodd Willemse ei ail gais o'r noson cyn I Van dêr Merwe sicrhau ei hat-tric.

Ar ei ymddangosiad cyntaf i'r clwb fe lwyddodd Eroni Sau I sgorio'i gais cyntaf i goroni buddugoliaeth gampus i Gaeredin.

Mae'r golled yn golygu fod y Scarlets yn disgyn un safle o dan Gaeredin yn y tabl.

Caeredin:

Kinghorn, Sau, Bennett, Scott, Van der Merwe, Hickey, Groom (capt), Schoeman, Willemse, Ceccarelli, McKenzie, Douglas, Miller, Crosbie, Haining.

Eilyddion: Fenton, Bhatti, McCallum, Thomson, Bradbury, Pyrgos, Van der Walt, Taylor.

Scarlets:

McNicholl; Conbeer, Hughes (capt), Nicholas, James; D Jones, Hardy; R Evans, T Davies, Lee, Cummins, Kruger, Phillips, Macleod, Cassiem.

Eilyddion: M Jones, P Price, Kruger, Helps, D Davis, J Evans, O'Brien, Fonotia.

Pynciau Cysylltiedig