Apêl wedi gwrthdrawiad ar Ynys Môn

Heddlu

Mae Heddlu'r Gogledd yn apelio am wybodaeth yn dilyn gwrthdrawiad ar Ynys Môn yn oriau man fore Sul.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad toc wedi hanner nos ar ffordd yr A5025 yng Nghemaes rhwng moped a char Kia Stonic lliw gwyn.

Fe gafodd y person ar gefn y moped ei gludo i'r ysbyty mewn hofrennydd.

Dywedodd Sarjant Nikki Grimes-Williams o'r llu: "Rydym yn ymchwilio i'r hyn a ddigwyddodd ac rydym yn awyddus i glywed gan unrhyw un oedd yn teithio ar hyd y A5025 rhwng Amlwch a Chemaes tua hanner nos."

Fe ddylai unrhyw un gyda gwybodaeth gysylltu a Heddlu'r Gogledd drwy ffonio 101.