Cadarnhad mai corff merch goll oedd mewn adeilad gwag

Published
image copyrightLlun teulu
image captionCafodd yr awdurdodau wybod bod Kianna Patton ar goll ddydd Mercher 23 Hydref

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cadarnhau mai corff merch goll o Ddoc Penfro gafodd ei ddarganfod mewn adeilad gwag yn y dref yr wythnos ddiwethaf.

Roedd Kianna Patton yn 16 oed.

Cafwyd hyd i'w chorff brynhawn Iau, 24 Hydref, ddiwrnod wedi i'r awdurdodau gael gwybod ei bod ar goll.

Dywed yr heddlu eu bod yn trin ei marwolaeth fel un heb esboniad ar hyn o bryd.

Pynciau Cysylltiedig