Llofruddiaeth Sarah Hassall: Apelio i adnabod tri o bobl

Lluniau camerau cylch cyfyng o dri pherson Image copyright Heddlu'r De
Image caption Mae'r heddlu yn awyddus i siarad hefo tri o bobl a welwyd ar gamerau cylch cyfyng

Mae'r heddlu sy'n ymchwilio i lofruddiaeth mam i ddau o blant wedi rhyddhau lluniau o dri o bobl y maent yn awyddus i siarad â nhw.

Cafodd corff Sarah Hassall, 38 oed, ei ddarganfod mewn tŷ yn Llys Graig Y Wion, Pontypridd, am 08:00 ar 6 Hydref.

Dywed Heddlu De Cymru fod lluniau o gamerâu cylch cyfyng ym maes parcio Heol Sardis yn dangos pobl a oedd yn yr ardal ar "amseroedd allweddol" ac allai fod â gwybodaeth fyddai o gymorth i'r ymchwiliad.

Mae dyn 37 oed wedi ymddangos yn y llys a'i gadw yn y ddalfa ar gyhuddiad o lofruddiaeth.

Image copyright Llun teulu
Image caption Roedd Sarah Hassall wedi bod yn aelod o'r Awyrlu a'r Fyddin

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol