Cyhoeddi 12 artist rhestr fer Gwobr Gerddoriaeth Gymreig

Gwobr Gerddoriaeth Gymreig Image copyright Gwobr Gerddoriaeth Gymreig

Mae Cate le Bon, Adwaith, Lleuwen a HMS Morris ymhlith yr artistiaid sydd ar restr fer Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2019.

Fe fydd y wobr, sydd bellach yn ei nawfed flwyddyn, yn cael ei rhoi mewn seremoni yn y Gyfnewidfa Lo yng Nghaerdydd ar 27 Tachwedd.

Llynedd cafodd y wobr ei hennill gan Boy Azooga, tra bod Meic Stevens hefyd wedi cael ei gydnabod am ei gyfraniad oes i gerddoriaeth yng Nghymru.

"Bob blwyddyn dwi'n cael fy syfrdanu gan y gerddoriaeth sy'n dod gan artistiaid yng Nghymru, ac mae cerddoriaeth o Gymru yn tyfu a thyfu mewn poblogrwydd," meddai sylfaenydd y wobr, Huw Stephens.

"Dwi'n gwybod ei fod e wastad yn benderfyniad anodd i'n beirniaid."

Yr artistiaid sydd ar y rhestr fer yw:

  • Accu - Echo the Red
  • Audiobooks - Now! (in a minute)
  • Carwyn Ellis a Rio 18 - Joia!
  • Cate Le Bon - Reward
  • Deyah - Lover Loner
  • Estrons - You Say I'm Too Much I Say You're Not Enough
  • HMS Morris - Inspirational Talks
  • Lleuwen - Gwn Glân Beibl Budur
  • Lucas J Rowe - Touchy Love
  • Mr - Oesoedd
  • Adwaith - Melyn
  • Vri - Tŷ Ein Tadau

Straeon perthnasol