McBryde wedi cael '12 mlynedd arbennig'
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

McBryde wedi cael '12 mlynedd arbennig' gyda Chymru

29 Hydref 2019 Diweddarwyd 09:31 GMT

Bydd y gêm am y trydydd safle yng Nghwpan Rygbi'r Byd yn siŵr o gael sylw fel gêm olaf Warren Gatland gyda Chymru, ond nid ef yw'r unig un sy'n gadael y tîm cenedlaethol.

Bydd hyfforddwr blaenwyr Cymru, Robin McBryde hefyd yn gadael am Leinster wedi dros ddegawd gyda'r tîm hyfforddi.

Dywedodd wrth gynhadledd i'r wasg wrth baratoi ar gyfer y gêm yn erbyn Seland Newydd ei fod wedi cael "12 mlynedd arbennig" gyda Chymru, a'i fod yn "falch iawn o edrych 'nôl ar beth ry'n ni wedi'i gyflawni".

Ychwanegodd ei fod yn sicr fod safon y garfan bresennol yn "cynhyrfu" y tîm hyfforddi newydd fydd yn dod yn eu lle.