Dyn yn euog o ladd wedi ras geir hyd at 80 mya â ffrind

Sophie Brimble Image copyright Llun teulu
Image caption Bu farw Sophie Brimble yng Ngorffennaf 2017

Mae barnwr wedi rhybuddio gyrrwr 49 oed i ddisgwyl cyfnod "sylweddol" yn y carchar wedi i ras yn erbyn ffrind ar gyflymder hyd at 80 mya mewn ardal breswyl arwain at farwolaeth menyw 20 oed.

Cafwyd Neil Brooks o Lyn Ebwy yn euog o achosi marwolaeth Sophie Brimble, o Grucywel ym Mhowys, wedi'r ras ym Mrynmawr, Blaenau Gwent, yng Ngorffennaf 2017.

Clywodd Llys y Goron Caerdydd ei fod yn rasio ar strydoedd â chyfyngiad cyflymder o 30 mya yn erbyn ei ffrind, Jay Bayliss, 25, sef cariad Miss Brimble.

Cafodd Mr Bayliss anaf mor ddifrifol nes bod dim modd dwyn achos yn ei erbyn mewn cysylltiad â'r gwrthdrawiad.

Roedd Miss Brimble yn teithio yng nghar Mr Bayliss pan gollodd yntau reolaeth o'i gar gan daro polyn lamp.

Bu farw yn y fan a'r lle.

Clywodd y rheithgor bod Brooks yn nabod y cwpwl ac wedi ysgogi'r ras wrth nabod car VW Polo Mr Bayliss ar y ffordd.

Dywedodd Matthew Cobbe ar ran yr erlyniad bod "y naill yrrwr wedi annog y llall", a bod y ras "a ddechreuodd tua hanner milltir cyn y gwrthdrawiad" wedi arwain at farwolaeth Miss Brimble.

Roedd y ddau, meddai, yn gyrru at gyflymdra dros ddwywaith y terfyn cyfreithiol yn y munudau cyn y gwrthdrawiad, a bod Mr Bayliss wedi cyrraedd dros 80 mya trwy ardal breswyl.

"Trychineb oedd y canlyniad," meddai, gan ychwanegu bod y ddau yrrwr yn "rhannu'n cyfrifoldeb" am farwolaeth Miss Brimble.

Roedd Brooks wedi pledio'n ddieuog i achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus.

Roedd hefyd yn gwadu achosi niwed corfforol difrifol i Mr Bayliss trwy yrru'n beryglus.

Bydd yn cael ei ddedfrydu ar 18 Tachwedd.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol