Galw am wahardd llosgyddion er budd yr amgylchedd

tu mewn llosgydd
Image caption Mae hanner y 350,000 tunnell o wastraff sy'n cael ei losgi bob blwyddyn yn y llosgydd hwn yng Nghaerdydd wedi dod gan bum cyngor lleol - daw'r gweddill o fusnesau

Mae claddu sbwriel mewn safleoedd tirlenwi yn well na'i losgi mewn llosgyddion mawr, a dylid gwahardd llosgyddion newydd, yn ôl AC.

Mae Cadeirydd Pwyllgor Amgylchedd y Cynulliad ac AC Llafur, Mike Hedges, o'r farn bod llosgi yn "fodd peryglus iawn o gael gwared ar wastraff".

Mae am weld Llywodraeth Cymru yn gwahardd llosgyddion newydd, ar wahân i'r rhai sy'n delio â sbwriel meddygol.

Ond mae eraill yn dadlau bod angen mwy ar Gymru os yw am gyrraedd uchelgais i fod yn "genedl di-wastraff" erbyn 2050.

Dywedodd Llywodraeth Cymru mai'r nod ydy "delio'n effeithiol gyda gwastraff" ac "osgoi llygru'r amgylchedd neu allforio'r broblem".

'Dim rheswm dros losgi'

Prif bryder Mr Hedges, sydd wedi ymgyrchu yn erbyn cynlluniau am losgydd ger Llansamlet yn ei etholaeth yn y gorffennol, ydy allyriadau sy'n dod o'r safleoedd.

"Bydd peth ohono'n garbon deuocsid sy'n wael iawn ar gyfer cynhesu byd eang. Bydd peth ohono'n ocsid nitrus a deuocsynau sy'n wael i iechyd.

"Mae ysbytai eu hangen nhw, maen rhaid iddyn nhw gael gwared ar germau yn eu gwastraff meddygol ond does na ddim rheswm pam fod angen llosgi gwastraff o gartrefi pobl.

"Pam na allwn ni flaenoriaethu lleihau ein gwastraff, yn hytrach na chwilio am fwy o ffyrdd i gael gwared ar mwy a mwy ohono?"

Yn y cyfamser, mynnodd bod claddu gwastraff yn "opsiwn ychydig yn llai gwael".

Ychwanegodd: "Cyn gynted â bod gennych chi ardal sydd yn ddiogel fe fydd y gwastraff yn aros yno, yn hytrach na'i roi mas i'r atmosffer lle allai ein niweidio ni."

Dywedodd AC arall, Dai Lloyd o Blaid Cymru, ei fod hefyd yn cefnogi gwahardd llosgyddion.

"Mae'n rhaid i ni wneud popeth yn ein gallu i osgoi rhagor o lygredd awyr," meddai Dr Lloyd, sy'n Gadeirydd Pwyllgor Iechyd y Cynulliad.

"Yr ateb ydy buddsoddi mewn canolfannau arbenigol i ailgylchu plastigau yng Nghymru, 'dan ni ddim yn gallu gwneud hynny ar hyn o bryd."

Mae Ailgylchu dros Gymru, yr ymgyrch genedlaethol sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, yn dadlau bod gwelliannau mewn technoleg a rheoleiddio wedi golygu bod yr allyriadau o losgyddion wedi disgyn yn sylweddol yn ystod y degawdau diwethaf, a bod y safleoedd yn troi gwastraff yn drydan a gwres adnewyddadwy.

Mae'n honni nad yw tirlenwi yn ateb cynaliadwy, gan fod yr holl safleoedd bron yn llawn a'i fod hefyd yn cynhyrchu methan, un o'r nwyon pwerus sy'n cyfrannu at newid hinsawdd.

Image caption Mae'r llosgydd yma yng Nghaerdydd yn un o lond llaw sy'n weithredol yng Nghymru

Mae gan losgyddion "ran allweddol i'w chwarae wrth sicrhau nad yw dim o'n gwastraff ni yn cael ei gladdu dan ddaear", yn ôl Robin Latchem, cyn-olygydd cylchgrawn Materials Recycling World.

Bydd angen mwy o losgyddion, meddai, wrth i fusnesau a diwydiannau mawr gael eu gorfodi i gyrraedd targedau amgylcheddol a lleihau defnydd o safloedd tirlenwi.

"Dy'n ni ddim eisiau ei roi yn y tir, na chwaith ei anfon dramor, felly tan dy fod ti a fi yn ailgylchu yn llawer mwy effeithiol, a'r holl wneuthurwyr a'u cyflenwyr yn gwneud eu pecynnau yn haws eu hailgylchu, ac yn cynhyrchu llai ohonyn nhw - yna mae'n rhaid i ni losgi."

Awgrymodd y gallai "enw gwael" llosgyddion newid drwy fod "yn llawer mwy clyfar ynglŷn â beth mae'r safloedd yn gwneud unwaith maen nhw wedi eu hadeiladu".

Er enghraifft, darparu gwres fforddiadwy ar gyfer cymunedau lleol fel eu bod nhw'n gweld budd "yn eu pocedi".

Image caption Byddai'r llosgydd yn darparu trydan a gwres ar gyfer fferm ddofednod a'r nod posib yw cyflenwi y Grid Cenedlaethol

Mae cynlluniau i ehangu llosgydd preifat ar fferm ger Brynbuga wedi arwain at gyflwyno deiseb ag arni 1,000 o lofnodion i Gyngor Sir Fynwy.

Y bwriad yw llosgi pren gwastraff a phlastigion nad oes modd eu hailgylchu ar y safle ym mhentref Llancaio, er mwyn cynhyrchu trydan ar gyfer fferm Trostrey Court a chyflenwi'r Grid Cenedlaethol.

Dywedodd Stuart Williams, un o'r ymgyrchwyr yn erbyn y datblygiad, bod pobl yn pryderu am lygredd aer ac allyriadau carbon posib.

"O ran y broblem newid hinsawdd, does dim angen gwneud pethau fel hyn o gwbl - heb sôn am mewn ardal wledig fel hyn.

"Mae Llywodraeth San Steffan a Chymru wedi dweud eu bod nhw am fod yn zero-carbon - wel nid cam yn y cyfeiriad cywir yw hwn."

Effaith yn 'isel iawn'

Dywedodd David Morgan, sy'n gyfrifol am y cais cynllunio mai dim ond codi adeilad ar gyfer y tanwydd yw ei fwriad.

Mae'r generadydd wedi'i adeiladu yn barod, gyda'r holl ganiatâd sydd ei angen eisoes wedi'i sicrhau.

Mae'n honni bod y safle wedi gweithredu ers pedair blynedd, er fod yr ymgyrchwyr yn gwadu hyn.

Gwnaeth adroddiad asesiad effaith amgylcheddol gafodd ei gyflwyno i'r cyngor ddod i'r casgliad y byddai lefel yr allyriadau fyddai'n debygol yn "fach iawn", a byddai effaith y gwaith ar ardaloedd pwysig ecolegol gerllaw yn "isel iawn".

Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod terfyn ar faint o sbwriel o gartrefi pobl y mae modd ei anfon at losgyddion tan 2025.

Mae gan gynghorau'r hawl i anfon 30% i'w droi yn drydan neu wres, er mwyn annog ymdrechion i ailgylchu'r gweddill.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mai'r bwriad ydy "delio'n effeithiol gyda gwastraff nad oes modd ei ailgylchu mewn modd sy'n osgoi llygru'r amgylchedd neu allforio'r broblem".

"Am y rheswm yma rydyn ni wedi buddsoddi mewn isadeiledd i greu trydan a gwres o'r deunydd yma a'i waredu'n ddiogel, ac i'r safonau amgylcheddol uchaf."

Ychwanegodd y llefarydd bod llosgi gwastraff yn "gam dros dro" a'r datrysiad hirdymor ydy symud i ffwrdd o ddeunyddiau fel plastig untro.

Straeon perthnasol