Cyhuddo dyn o lofruddio Lauren Griffiths yng Nghaerdydd

Lauren Griffiths Image copyright Llun teulu
Image caption Cafodd corff Lauren Griffiths ei ddarganfod yn ardal Cathays

Mae dyn wedi ymddangos yn y llys wedi'i gyhuddo o lofruddio dynes 21 oed yng Nghaerdydd ym mis Ebrill.

Cafodd corff Lauren Griffiths ei ganfod yn ei chartref mewn fflat ar Stryd Glynrhondda yn ardal Cathays ar 30 Ebrill.

Mae Madog Llewellyn Rowlands, 22 oed o Wrecsam, wedi cael ei gyhuddo o lofruddiaeth.

Fe wnaeth ymddangos o flaen ynadon yng Nghaerdydd ddydd Iau.

Ni wnaeth gyflwyno ple ac fe gafodd ei gadw yn y ddalfa cyn ei ymddangosiad nesaf yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Gwener.

Mae teulu Lauren, sy'n byw yng Nghroesoswallt, wedi cael eu diweddaru ac maent yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Stuart Wales o dîm troseddau difrifol Heddlu'r De: "Er bod person wedi'i gyhuddo, mae'r ymchwiliad yn parhau ac rydym yn awyddus i glywed gan unrhyw un sydd â gwybodaeth bellach."

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol