Robin McBryde
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Robin McBryde: 'Gallwn edrych yn ôl yn falch'

1 Tachwedd 2019 Diweddarwyd 14:06 GMT

Yn dilyn colled Cymru yn erbyn Seland Newydd yng ngêm olaf y ddau dîm yng Nghwpan Rygbi'r Byd yn Japan, hyfforddwr Cymru, Robin McBryde sy'n edrych yn ôl dros yr ymgyrch.

Fe gollodd Cymru o 40-17 yn erbyn y Crysau Duon ac o ganlyniad fe orffennodd nhw yn y pedwerydd safle yn y gystadleuaeth.

Llwydodd Josh Adams i sgorio'i seithfed cais o'r gystadleuaeth gan guro record Shane Williams am y nifer mwyaf o geisiau sydd wedi'u sgorio yng Nghwpan y Byd.

Dyma oedd gêm olaf Prif Hyfforddwr Cymru, Warren Gatland cyn i Wayne Pivac gymryd yr awenau yn ei le.