Y Bencampwriaeth: Caerdydd 0-1 Bristol City

Caerdydd Image copyright Getty Images

Mae Caerdydd wedi colli gêm gartref yn y Bencampwriaeth am y tro cyntaf y tymor hwn ar ôl i Bristol City eu trechu yn y brifddinas.

Josh Brownhill sgoriodd unig gôl y gêm ar ôl 67 munud gyda tharan o ergyd o 25 llath.

Fe darodd Caerdydd y traws dair gwaith - Junior Hoilett yn yr hanner cyntaf a Leandro Bacuna ac Aden Flint yn yr ail hanner.

Mae'r canlyniad yn golygu fod yr Adar Gleision yn parhau yn y 14eg safle yn y Bencampwriaeth, ond maen nhw bellach saith pwynt yn brin o'r chwe safle uchaf.