Oriel atgofion: Huw Chiswell

Mae'r canwr, cyfansoddwr a chynhyrchydd teledu, Huw Chiswell, wedi rhyddhau llyfr, Shwd ma'i yr hen ffrind? yn olrhain hanes ei fywyd a rhai o'i ganeuon fwya' adnabyddus.

Gofynnodd Cymru Fyw iddo hel atgofion drwy gasglu lluniau arwyddocaol o'i fywyd a'i yrfa:


Tad-cu a fi Image copyright Huw Chiswell
Image caption Tad-cu a fi yn ein cartref yng Ngodre'r Graig

Fi a Tad-cu

Cwm Tawe yw 'gartre' i fi, er mod i'n byw yng Nghaerdydd bellach. Ges i fy magu yng Ngodre'r Graig, ac fel yr unig blentyn, fi oedd prif ffocws y teulu. Mae'n naturiol am wn i, bod mwy o sylw a mwy o bwyse mewn rhai ffyrdd, efallai.

O'dd fy nhad-cu yn byw o dan yr un to, achos yn ei dŷ e ro'n ni'n byw. Oedd e o gwmpas tan o'n i'n 14, felly yn y blynyddoedd ffurfiannol, gellir dadlau nad unig blentyn o'n i, achos oedd gen i'r brawd mawr yma, brawd mawr hen, ond doeth ac annwyl.

O'n i'n lwcus i gael yr elfen honno o frawd, nad oedd yn blentyn. Oedd e'n gallu cynghori ac oedd e'n amyneddgar gyda fi. Falle nad ydw i'n unig blentyn yn y bôn.

Oliver ar fuarth yr ysgol Image copyright Huw Chiswell
Image caption Huw yn y canol, yn actio rhan Oliver yn sioe gerdd yr ysgol gynradd

Y dyddiau cynnar yn y cwm

Fe es i ysgol gynradd y pentre', Ysgol Pant-teg, wrth droed Mynydd Allt-y-Grug.

Ges i ddim addysg gynradd Gymraeg. Fe ddaeth addysg Gymraeg i'r ardal yn hwyr yn fy ngyrfa ysgol gynradd i, ysgol bentre oedd hon, ond ymlaen wedyn i Ysgol Uwchradd Ystalyfera.

Fi oedd yn actio Oliver yn y sioe, oedd hwnna'n dipyn o brofiad ar y pryd. Yn festri'r capel sydd ger yr ysgol llwyfanwyd y ddrama gerdd, a ges i fynd nôl 'na wrth ffilmio rhaglen Deuawadau Rhys Meirion ychydig flynyddoedd yn ôl. Roedd hi'n brofiad rhyfedd i fynd mewn am y tro cynta' ers yr 1970au a chofio perfformio o flaen torf enfawr, ond wrth gwrs festri fach yw hi mewn gwirionedd, nid yr Albert Hall!

Erbyn hyn s'dim golwg o'r ysgol, mae'r adeilad wedi diflannu. Caeodd yr ysgol heb fod yn hir ar ôl i fi adael, oherwydd y mynydd uwchben. Mae tueddiad gan fynydd Allt-y-Grug i lithro, ers diwedd y 1950au. Yn dilyn Aberfan, roedd ofnau gan yr awdurdodau, felly caewyd yr ysgol, ac fe'i dymchwelwyd yn y pen draw.

Yn 18 oed Image copyright Huw Chiswell
Image caption Huw ar ddiwedd cyfnod yn Ysgol Ystalyfera

Dyddiau coleg

Mae'r llun hwn o ddyddie y chweched dosbarth (yn Ysgol Ystalyfera) pan o'n i tua 18 oed, diwedd cyfnod cyn mynd i'r coleg. Fues i'n y brifysgol yn Aberystwyth am flwyddyn, a wedyn graddio yn y Gymraeg o Abertawe.

O'n i wrth fy modd i fynd i'r coleg, o'dd yn teimlo fel carreg filltir, yn mynd gyda asbri mawr. O'dd pob un o fy newisiadau i yng Nghymru, do'n i ddim eisiau gadael Cymru.

1980au Image copyright Huw Chiswell
Image caption Llun hyrwyddo HTV yn y 1980au

Cynhyrchu rhaglenni arloesol S4C

Es i Gaerdydd yn 1982. O'n i'n lwcus i fod yn graddio wrth i S4C lansio, o'dd 'na alw am swyddi, ac fe wnaeth HTV hysbysebu am ymchwilydd teledu. Mae'n debyg o'dd 'na filoedd o ymgeiswyr, felly o'n i'n lwcus iawn i gael y swydd a chychwyn fan 'na.

Ges i gynnig dewis rhwng swydd fel cyflwynydd neu fel ymchwilydd. A dewises i swydd tu nôl y camera, o'n i ddim eisiau bod yn berfformiwr nag yn actor, ond fel mae'n digwydd fe wnes i ddiweddu yn 'neud tipyn o waith o flaen y camera.

O'dd popeth yn newydd i'r rhan fwya' ohonon ni, daeth S4C fel dipyn o sioc i bawb, o'dd angen llenwi amserlen ar fyrder. Er bod rhaglenni Cymraeg BBC a HTV i gael cyn S4C, gyda'r sianel newydd o'dd angen llwyth o bobl i weithio ar y rhaglenni, dod â syniadau, cynhyrchu ac i berfformio ar y sgrin. Daeth llwyth ohonon ni mewn ar yr un pryd, o'dd rhyw gyffro ac arbrofi yn y rhaglenni fel Swigs, Teulu'r Mans a'r Ddau Ffranc.

O'dd yr allbwn yn HTV yn rhyfeddol ar y pryd.

Rhys Ifans a Huw Chiswell yn gweithio ar raglenni Swigs Image copyright Keith Morris
Image caption Rhys Ifans a Huw Chiswell yn gweithio ar raglenni Swigs yn yr Eisteddfod

Swigs o'r Steddfod

Un o'r pethau cynta' weithies i arno oedd rhaglen Torri Gwynt gyda Dewi Pws. A wnaeth y thema' na barhau gyda rhaglenni rhyfygus ac arloesol. Ro'n ni'n trio ein gorau i dorri tir newydd gyda'r rhaglenni teledu yn y cyfnod.

O'n i'n cynhyrchu'r rhaglenni Swigs o'r Steddfod. Wnaethon ni ddatblygu cymeriadau y ddau Ffranc [Rhys Ifans a Meirion Davies oedd yn eu actio] ac oedd 'na dipyn o bethau yn dod drwodd yn sgil y rhaglenni hynny. Roedd yn gyfnod cyffrous iawn. O'dd y Swigs yn wych o brofiad, o'dd hi'n fraint cael cynhyrchu'r rhaglenni 'na a gweithio gyda phobl fel Rhys Ifans oedd yn donic ac yn ddawnus iawn.

O'dd modd bod yn fwy mentrus a beiddgar, o'dd 'na gyffro wrth y cynhyrchu. O'n ni'n cychwyn bob bore gyda tudalen lân, yn mynd allan i saethu yn ystod y dydd a'r holl beth yn cael ei throi mewn i raglen gan obeithio gorffen mewn pryd ar gyfer y darllediad am 10 y nos- ac yn aml iawn o'n ni'n mynd lan yn agos iawn at yr amser.

Enillais i BAFTA am gyfraniad i adloniant, gyda rhaglen Swig o Bacardi (Eisteddfod Aberystwyth). O'dd honna'n arbennig iawn o Steddfod.

Recordio Dwylo Dros y Mor yn stiwdio Loco Image copyright Huw Chiswell
Image caption Yr artistiaid oedd yn perfformio ar record Dwylo Dros y Môr yn 1985

Cyfansoddi Dwylo Dros y Môr

Dwi'n cofio recordio Dwylo Dros y Môr yn stiwdio Loco tu allan i Gaerleon, yn Sir Fynwy yn 1985. Yn y stiwdio honno ro'n i wedi recordio fy albym cynta' Rhywbeth o'i Le ac yna Rhywun yn Gadael.

Dafydd Roberts (o gwmni Sain bellach) sydd bia'r clod am y fenter. Daeth galwad ffôn wrtho. O'n i wedi ennill Cân i Gymru, ac o'dd fy albym cynta' wedi ei recordio. Gofynnodd am gân yn weddol gloi, ac felly es i ati i gyfansoddi, a daeth popeth yn sydyn iawn wedyn.

Dwi'n cofio'r diwrnod recordio, lle roedd pawb o'n i wedi edmygu ar hyd y blynyddoedd yn dod ynghyd i ganu cân o'n i wedi ei chyfansoddi, o'dd yr elfen honno yn wych.

Roedd y rheswm tu nôl y gân, y newyn echrydus, yn flaenllaw ar y newyddion yn y cyfnod. Oedd Band Aid wedi bod ac o'n ni'n teimlo ein bod ni'n 'neud rhywbeth i ateb hyn.

Wrth edrych yn ôl, dwi ddim yn siŵr faint o ymateb llythrennol oedd, ond dwi'n meddwl bod dyngarwch yr holl beth yn rhywbeth pwysig a bod pobl wedi dod at ei gilydd fel ymateb ac i ddangos cefnogaeth. Mae'r gân yn dal i gael ei chanu heddiw.

Canu Image copyright Huw Chiswell
Image caption Recordio yn Stiwdio HTV, Croes Cwrlwys - adeilad sydd bellach wedi ei ddymchwel

Perfformio

O'dd yr holl sylw yn dilyn yr albwm cynta' a'r cynigion i ymddangos ar raglenni, ac i gyfansoddi, o'dd hi'n gyfnod newydd i fi, tua 23 oed o'n i. O'dd hi'n gyffrous iawn a phrysurdeb mawr ar ben gwaith bob dydd, o'dd hi'n gyfnod gwyllt, ond o edrych nôl, o'n i'n lwcus iawn.

Dwi'n dal i weithio ym maes teledu a pherfformio. Does dim llawer wedi newid o ran gweithgaredd, dwi'n dal i ganu mewn cyngherddau a gigs. Dwi wedi sgrifennu rhai caneuon Saesneg, ond canwr a chyfansoddwr Cymraeg ydw i, mae'r caneuon yn rhai eitha' personol felly mae'n naturiol mai trwy'r Gymraeg dwi'n eu canu.

Fe ges i gynigion i gyhoeddi caneuon yn Saesneg, ond 'nes i byth, a sai'n credu 'neith hynny newid nawr.

Wrth piano Cat Stevens Image copyright Huw Chiswell
Image caption Huw wrth ei Yamaha PC70

Piano Cat Stevens

Yamaha PC70 yw hwn yn fy stiwdio i.

Ges i'r cyfle i'w brynu yn yr 1980au. Hen biano Cat Stevens ydy hwn. O'n i'n gyfarwydd â'i ganeuon hyfryd a gwych o'r 1970au ac 80au, ond roedd e'n troi at Islam, ac o'dd hynny'n golygu ei fod yn gwerthu ei bethe bydol i gyd, ac o'dd y piano ymhlith yr arwerthiant. Mae'r union biano i'w glywed ar rai o'i recordiau fwya' poblogaidd. Mae'n offeryn eiconig.

O'n i eisiau offeryn trydanol ond oedd rhaid iddo fod fel piano go iawn. Mae ganddo ei sŵn unigryw ei hunan ond mae'n arteithig i'w gludo o gwmpas y lle! Trwy gydol yr 80au, dyna o'n i'n defnyddio ymhob man, mae hynny'n iawn pan ti'n iau, ond wrth i fi fynd yn hŷn, s'dim llawr o gludo ar y piano yma bellach a mae yn fy stiwdio!

Mae'n hyfryd cael offeryn sydd â dipyn bach o hanes iddo.

Gyda'r Morris Traveller Image copyright Huw Chiswell
Image caption Huw gyda'i Morris Traveller

Y Morris Traveller

Mae'r Morris Traveller wedi bod 'da fi ers 1989, mae wedi cael dipyn o waith arno yn ddiweddar, felly mae'n rhedeg yn dda ac yn sgleiniog. Mae'r car yn cael owtings yn eitha' aml dyddie hyn.

Odd 'whant Morris arna' i ac es i Gaerfaddon i brynu un, ond o'n nhw bach yn ddrud. Wrth ddod o'r garej yn teimlo'n ddigalon, dyma gar sgleiniog iawn, y Morris Traveller, yn gyrru tuag aton ni. Wnes i godi fy llaw a tynnodd y gyrrwr i mewn. O'dd e ar ei ffordd i'r garej i werthu'r car, a brynes i'r Morris cyn iddo fe gyrraedd y garej! Mae llawer o straeon am y car dros y blynyddoedd.

Huw Chiswell Image copyright Huw Chiswell
Image caption Gyda Chadair Eisteddfod Ysgol Ystalyfera a enillodd pan oedd tua 13 oed

Dawn 'sgrifennu

Ar noson lansio fy llyfr, roedd Mr John Evans, fy nghyn-athro Cymraeg i yno, ac fe wnaeth fy atgoffa o fy ffugenw wrth ennill y Gadair hon yn yr ysgol am sgwennu rhyddiaith. Fy ffug enw oedd 'ap hwyaden'. Donald oedd enw fy nhad i, a jôc creulon fy rhieni oedd rhoi yr enw i fi - Donald Huw Chiswell ydw i.

Dwi'n meddwl licen i 'neud bach mwy o sgwennu, dwi wedi ymddiddori erioed, ond falle bydd cyfle i roi bach mwy o amser i hynny yn y dyfodol.

Mari, Manon, Huw a'i fam Image copyright Huw Chiswell
Image caption Huw gyda'i ferched Mari a Manon a'i fam yn 1 New Street

Y teulu a thynfa Cwm Tawe

Mae Mari bron iawn yn 17 oed a Manon yn 15. Ry'n ni'n agos iawn ac mae'r ddwy yn agos iawn iawn at ei gilydd hefyd.

Mae Mam yn dal i fyw yn 1, New Street - tŷ Tad-cu. Dyna lle ganwyd fy mam a'i brodyr. Mae hi'n byw yno tan heddi.

Dyna lle ges i fy mhrofiade cynta', dyna'r gymdeithas sy' wedi fy ffurfio i. Mae gen i lawer o ganeuon sy'n cyfeirio at yr ardal, ac yn benodol yn cyfeirio at adael, roedd yn rhwyg i fi rhywsut.

Fy nghof i o fod yn blentyn a chlywed y Gymraeg a phrysurdeb ar y stryd tu allan i ffenest fy stafell wely. Ond dyw hynny ddim yn wir bellach.

Yn weledol hefyd mae'r ardal wedi newid yn sylweddol. Duwch holl bresennol dwi'n cofio o fy mhlentyndod, olion creithie ar y mynydd, y pylle glo, ond bellach mae gwyrddni a hyfrydwch naturiol y cwm yn tyfu nôl.

Mae 'na dynfa o hyd at yr ardal.

Cyhoeddwyd Shwd ma'i yr hen ffrind gan Y Lolfa.


Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau Cysylltiedig