Y Gynghrair Genedlaethol: Eastleigh 0-2 Wrecsam

Mae Wrecsam wedi codi o waelod y Gynghrair Genedlaethol yn dilyn buddugoliaeth o 2-0 oddi cartref yn Eastleigh nos Fawrth.
Daeth y gôl gyntaf wedi 16 munud ar ôl i Omari Patrick sgorio yn dilyn croesiad gan James Jennings.
Fe sgoriodd Patrick ei ail gôl o'r noson ychydig funudau cyn yr egwyl wedi pas ddeallus gan Bobby Grant i'w ryddhau un am un o flaen y gôl.
Yn dilyn y fuddugoliaeth mae Wrecsam yn parhau yn y pedwerydd safle o'r gwaelod.