Dynes yn marw ar ôl tagu ar losin ym Mhen Llŷn

Mia Austin Image copyright LLUN TEULU
Image caption Fe wnaeth Mia Austin ddioddef strôc yn 2009

Mae cwest wedi dod i'r casgliad fod dynes wnaeth ddioddef strôc 10 mlynedd yn ôl wedi marw mewn parc gwyliau yng Ngogledd Cymru ar ôl tagu ar falws melys.

Bu farw Mia Austin, oedd yn 30 oed ac o Gilgwri, tra ar wyliau ym mharc gwyliau The Warren yn Abersoch ym mis Mehefin eleni.

Clywodd y cwest fod Ms Austin wedi colli'r gallu i siarad a symud yn dilyn strôc 10 mlynedd yn ôl, ac o'r herwydd roedd yn amhosib iddi dagu'r losin yn rhydd pan aeth yn sownd yn ei gwddf.

Fe ddyfarnodd y crwner, Dewi Pritchard Jones fod y farwolaeth wedi'i hachosi drwy ddamwain.

Pynciau Cysylltiedig