Y cyn-AS Ann Clwyd 'ddim yn difaru' cefnogi rhyfel Irac

Ann Clwyd yn 1984
Image caption Cafodd Ann Clwyd ei hethol gyntaf mewn is-etholiad yn 1984

Dyw'r cyn-Aelod Seneddol Llafur, Ann Clwyd "ddim yn difaru" cefnogi ail ryfel Irac.

Roedd yn siarad ar raglen Post Cyntaf BBC Radio Cymru am ei gyrfa yn dilyn ei hymddeoliad yn gynharach yn y mis.

Yn 82 oed, Ms Clwyd oedd yr aelod benywaidd hynaf yn Nhŷ'r Cyffredin cyn iddi gamu i lawr yn yr etholiad cyffredinol ym mis Rhagfyr.

Bu'n cynrychioli etholaeth Cwm Cynon am 35 o flynyddoedd.

'Drïes i fy ngorau i osgoi rhyfel'

"I mi bob amser roedd cael gwared ar Saddam Hussein yn hanfodol oherwydd be' oedd o'n 'neud i'w bobl ei hun," meddai Ms Clwyd.

Mae'n dweud iddi fod mewn cysylltiad gyda'r Cwrdiaid am flynyddoedd cyn y rhyfel yn 2003 pan oedd Arlywydd Irac, Saddam Hussein yn eu lladd.

"O'n i ar ben y mynydd rhwng Iran ac Irac yn gweld beth oedd yn digwydd, a'r helicopter gun ships a'r bobl yma'n ffoi i fyny'r mynyddoedd uchel iawn yma ynghanol gaeaf, a phobl weithiau mewn dillad tenau iawn, ddim byd mwy na slippers ar eu traed nhw yn cario plant," meddai.

Roedd y rhyfel rhwng Irac ac America a Phrydain yn un dadleuol gyda miliynau'n gwrthwynebu.

Cafodd Prif Weinidog y DU ar y pryd, Tony Blair, ei feirniadu gyda'i wrthwynebwyr yn dweud bod yr ymosodiad yn un heb gyfiawnhad.

Image copyright Getty Images
Image caption Mae astudiaeth academaidd yn amcangyfrif bod tua hanner miliwn o bobl wedi marw yn Irac yn sgil y rhyfel rhwng 2003-2011

Mae Ms Clwyd yn dweud bod pobl dal ddim yn deall heddiw pam iddi gefnogi Mr Blair.

"Dwi'n meddwl bod hi'n bwysig bod pobl yn gwybod beth ddigwyddodd cyn y rhyfel," meddai.

"Oedd gennon ni'r wybodaeth i gael indictment yn erbyn rhai o benaethiaid regime Saddam Hussein. Dwi'n dal i fod yn flin bod hynna ddim wedi digwydd.

"Drïes i fy ngorau i osgoi rhyfel ond yn y diwedd esh i i Kurdistan ryw dri mis ymlaen llaw ac fe ddywedodd Arlywydd Kurdistan amser hynny: 'I'm afraid we've tried ourselves and we've failed. War is now the only way to stop him'.

"Esh i 'nôl a deud hynny yn y Tŷ Cyffredin ac esbonio'r pethau o'n i wedi'u clywed a gweld a dyna beth ddigwyddodd."

Image caption Cafodd Ann Clwyd ei hethol gyntaf mewn is-etholiad yn 1984

Yn yr etholiad cyffredinol ym mis Rhagfyr eleni, fe benderfynodd Ann Clwyd i beidio sefyll fel ymgeisydd a hynny ar ôl 35 mlynedd fel AS Cwm Cynon.

Mae'n dweud bod y tair blynedd ddiwethaf yn San Steffan wedi bod yn "wastraff mewn ffordd" am fod cymaint o amser wedi cael ei ddefnyddio yn trafod Brexit.

Roedd Ms Clwyd, oedd yn Aelod Seneddol Ewropeaidd cyn cael ei hethol yn 1984 yn AS, eisiau i'r DU aros yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd.

"Mae yna bethau ddylai bod ni wedi bod yn canolbwyntio arnyn nhw - pethau yn y wlad yma, pethau mewn gwledydd eraill."

Ychwanegodd fod yr aelodau wedi bod yn cael "yr un hen ddadleuon drosodd a throsodd yn lle dod â'r peth i ben".

Image caption Treuliodd Ann Clwyd oriau dan ddaear yn protestio yn erbyn y penderfyniad i gau pwll glo yn ei hetholaeth ac fe lwyddodd i wyrdroi'r penderfyniad

Ei diddordeb yn yr ardaloedd glofaol a brwydr y gweithwyr i gael iawndal ar ôl dioddef gyda'u hiechyd wedi blynyddoedd dan ddaear oedd y rheswm pam y gwnaeth hi benderfynu camu i'r byd gwleidyddol.

Yn 1994 fe dreuliodd oriau lawr Glofa'r Tŵr ger Aberdâr er mwyn protestio i'w gadw ar agor, a hynny'n y cyfnod pan oedd y llywodraeth wedi bod yn cau'r pyllau glo ar draws y DU.

Dyma, meddai, oedd y cam olaf ar ôl protestio a chodi'r pwnc sawl gwaith yn Nhŷ'r Cyffredin.

Er y bydd Ms Clwyd yn rhoi'r gorau i eistedd ar y meinciau cefn, mae'n dal eisiau codi llais ynglŷn â'r pynciau sydd o bwys iddi ac yn bwriadu ymweld ag Irac yn y flwyddyn newydd.

Image copyright Getty Images
Image caption Does gan Ann Clwyd ddim bwriad 'eistedd yn llonydd' nawr ei bod hi wedi rhoi'r gorau i fod yn Aelod Seneddol

"Dwi'n licio gwneud sŵn," meddai.

"Gesh i'n sacio gan Neil Kinnock am bleidleisio yn erbyn gwario ar arfau niwclear ac wedyn gesh i'n sacio gan Tony Blair am fynd i Irac heb gael caniatâd ymlaen llaw."

Yn y blynyddoedd y mae wedi bod yn AS mae wedi cael sawl teitl ac yn aelod o sawl pwyllgor yn Nhŷ'r Cyffredin. Ond nid y teitlau sydd y cyfrif, meddai.

"Dwi'n teimlo mod i wedi ymgyrchu dros bethau dwi'n credu ynddyn nhw - weithiau wedi llwyddo, weithiau ddim wedi llwyddo - ond dal i ymgeisio ac wedyn na, dydy teitlau ddim yn bwysig."

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol