Huw Edwards: Beirniadaeth, herio a cholli pwysau

Ag yntau wedi bod yn gweithio i'r BBC ers 35 o flynyddoedd, wedi bod yn cyflwyno rhaglen BBC News at 10 ers 2003 ac yn cyflwyno amryw o raglenni eraill yn Gymraeg a Saesneg, mae Huw Edwards yn wyneb cyfarwydd iawn i nifer.

Mae hefyd wedi cael y cyfle i gyflwyno rhaglenni proffil uchel fel priodasau brenhinol, ac eleni, fe olynodd David Dimbleby fel prif gyflwynydd rhaglen yr Etholiad Cyffredinol ar BBC One.

Cymerodd amser o'i amserlen brysur i gael sgwrs gyda Garry Owen ar gyfer pennod arbennig o'r gyfres Meistri ar BBC Radio Cymru, gan drafod ei gariad tuag at newyddion teledu, yr her o ddarlledu'n ddi-duedd yn wyneb beirniadaeth, a sut mae colli pwysau wedi trawsnewid ei fywyd.

"O'n i 'di cal llond bola o bobl yn dweud pethe dwl iawn.

"Mae'n anodd iawn dod mewn drwy'r drws pan fo pobl yn meddwl o ddifri bod chi'n dod mewn i hybu rhyw achos gwleidyddol, achos celwydd maleisus yw hynny.

"Ges i lond bola yn ystod Refferendwm Yr Alban, a wedes i ddim byd. A ges i lond bola yn ystod Refferendwm Ewrop, a wedes i ddim byd, a falle fod bai arna i am ddweud dim byd.

"A gan fod y BBC wedi bod yn ddigon ara' i ymateb i'r feirniadaeth, a gan fod fy nhîm i yn teimlo'n weddol ddigalon ac yn rhwystredig iawn, o'n i'n teimlo fod rhaid i fi ddweud rhywbeth.

"O'n i ddim yn disgwyl cael ymateb fel 'nes i, ond 'wi 'di cael cannoedd o negeseuon gan staff y BBC yn dweud diolch gan fod y feirniadaeth yn annheg.

"I fi, mae awgrymu fod miloedd o newyddiadurwyr yn dod mewn i'r BBC yn ddyddiol er mwyn hybu un achos wleidyddol...? C'mon! Mae'r peth yn nonsens pur ac mae angen dweud hynny.

Image caption Cafodd Huw Edwards a Garry Owen sgwrs ddiflewyn-ar-dafod ym mhencadlys y BBC yn Llundain

"Pan o'n i tua 12 oed, fe ddechreuodd obsesiwn ynglŷn â newyddion teledu.

"O'n i'n gwylio pob dim, ar bob ochr. A pan ddechreuodd S4C, o'n i'n gallu gweld cyfle o ran teledu yn y Gymraeg. Pan o'n i'n tyfu lan, pwy o'dd yr arwyr i fi? Vaughan Hughes ar Y Dydd - o'dd Vaughan yn gyflwynydd heb ei ail, ac o'n i'n meddwl bod Y Dydd yn rhaglen arbennig o dda, yn gryno ac yn glir.

"Gwyn Llywelyn - arbennig. Beti George - arbennig. Mae gen i barch mawr at Beti. Mae Beti, nid jest yn newyddiadurwraig arbennig, ond - a dyma'r compliment mwya' wrtha i - mae'n ddarlledwraig arbennig.

"Y broblem fwya' dwi'n weld yw sut i herio pobl sydd yn amlwg yn rhoi atebion camarweiniol.

"Ac i'r BBC, mae hynny'n her. Ydych chi'n eu galw nhw'n gelwyddgwn? Neu ydych chi'n ceisio herio mewn ffordd wahanol?

"I fi, yr unig ffordd i'w wneud e sydd yn effeithiol, yw ma'n rhaid dangos parch at y bobl chi'n cyfweld, hyd yn oed os nad ydych chi yn cytuno â nhw, a mae'n rhaid i chi seilio cwestiynau ar ffeithiau.

"Mae'n beth diddorol i unrhyw gyflwynydd - sut mae hunan-ddisgyblaeth yn gweithio pan y'ch chi'n cyfweld rhywun sydd yn eich cythruddo chi? Neu sydd wedi gwneud neu ddweud rhywbeth chi'n ystyried yn gwbl annerbyniol a bo' nhw dal i amddiffyn y peth?

"Mae hynny wedi bod yn her i fi ar adege, ac mae gorfod bod yn gwrtais ond yn gadarn yn un o'r sgiliau mwya' i unrhyw gyflwynydd; gwneud yn berffaith siŵr fod y gynulleidfa'n deall mod i ddim yn derbyn yr ateb, ond yn gwneud hynny mewn ffordd sy' ddim yn anghwrtais.

"Y broblem yw bod pobl yn meddwl eich bod chi'n bod yn rhy soft os nad y'ch chi'n dechrau gweiddi a 'ralio'! Ond i fi, nid dyna'r dechneg sydd wedi gweithio.

"Profiad heriol ond wrth gwrs, fel gorffes i egluro wrth bapurau newydd yn Llundain, do'n i ddim yn ddieithryn i stiwdio etholiad...

"Nôl yn 1987, pan o'n i'n ohebydd Seneddol i BBC Cymru, o'n i'n 26 oed.

"Yn ystod etholiad '87, y ras mwya' yng Nghymru, oedd yng Nghaerfyrddin - four way marginal. O'dd fy nhad (Hywel Teifi Edwards) [yn sefyll] gyfer y Blaid.

Image caption Roedd Huw Edwards yn ohebydd Seneddol yn ystod Etholiad Cyffredinol 1987

"Ond fy job i ar y noson oedd bod yn sylwebydd di-duedd ar y digwyddiadau ac ar y canlyniad. Dipyn o her. O'n i'n gwybod pa mor galed oedd Dad wedi gweithio ar yr etholiad, ac o'dd e'n credu o ddifri y galle fe ennill. Fel mae'n digwydd, rhyw gannoedd o bleidleisiau oedd rhwng y cyntaf a'r pedwerydd.

"Y gwir yw, does dim byd lot mwy heriol na sylwebu ar etholiad pan mae eich tad chi'n sefyll mewn sedd. A'r clod gorau ges i oedd gan Richard Rees, oedd yn gweithio i BBC Cymru ar y pryd - wedodd e 'Nes di rywbeth anodd iawn neithiwr, ond 'nes di fe'n broffesiynol iawn a llongyfarchiadau mawr i ti'. O'dd hwnna'n meddwl y byd i fi - bo' rhywun wedi gweld y ffaith mod i wedi gorfod ymdopi â rhywbeth yn broffesiynol.

"'Wedodd Dad wrtha i 'jiw, oeddet ti'n siarad amdana fi fel 'sa' fi'n ddierth' - ond compliment proffesiynol o'dd hynny.

"O'dd eistedd yn y sedd [eleni] yn olynu Dimbleby yn rhywbeth heriol, ond o'n i'n gartrefol yn y gader? O'n. O'n i ddigon parod, achos bod golygydd uchel iawn yn y BBC wedi gweud 'tho i 'ti fydd y nesa' ar ôl Dimbleby'.

"'92 o'dd hynny - felly dwi 'di aros dipyn o sbel i fod yna!

Image caption Huw oedd yn llywio noson yr etholiad ar BBC One

"Ges i lot o 'stick' yng Nghymru am 'neud y briodas Frenhinol yn 2011.

"Ac a gweud y gwir, a'th hwnna ar fy nerfau i achos o'n i'n cael cyfle i wneud job proffesiynol fel Cymro Cymraeg.

"O'dd cael Cymro yn cyflwyno'r rhaglen i gynulleidfa - ar draws y byd - o gannoedd o filiyne, i fi, yn beth da. Felly mae cael cyfle i wneud pethe felly ar ben newyddion, i fi, wedi bod yn bleser a hanner.

"'Wi'n gwneud llawer llai i BBC Cymru nag o'n i, ac nid fy newis i yw hynny. Fydden i'n gwneud mwy, 'sa fi'n cael y cynigion.

"Mae gwneud pethau i S4C wedi bod yn bleser mawr, achos dwi'n teimlo mod i'n cysylltu gyda chynulleidfa o Gymry Cymraeg. Dwi'n teimlo fod yna gyswllt cryf gyda nhw, a 'wi'n ceisio cynnal y peth.

"Mae hynny wedi bod yn darged i fi dros y blynydde, i gynnal y darlledu yn y Gymraeg, achos fan'na ddechreues i, a dwi'm isie gollwg hynny. 'Wi'n credu bod e'n rhan bwysig o be' wi'n 'neud. Bydde'n hawdd iawn i fi aros fan'yn - mae gen i ddigon o waith 'ma, a maen nhw'n cynnig rhagor o waith i fi, a ddim mynd nôl a mlaen ar y trên i Gaerdydd - ond 'wi ddim isie 'neud hynny.

"Ma' un o'r bechgyn yn dweud 'tha i 'O ma' 'fat dad' mynd i ddod nôl'. Falle fod e'n iawn.

"O'n i rhy drwm, ac felly ddim yn hapus 'da hynny, ac yn deall mod i ddim yn bod yn deg 'da nghorff 'yn hunan o safbwynt iechyd. Ac wedyn ga'th hynny effaith arna i'n feddyliol, sef mod i ddim yn teimlo'n grêt am fy hunan - jest yn teimlo'n weddol isel, â bod yn onest.

Image caption Mae yna lawer wedi sylwi ar ddelwedd newydd Huw - ac mae eisiau pwysleisio nad oes ganddo steilydd, a'i fod yn prynu ei ddillad ei hun!

"Dim nes bod fy ngwraig i'n gweud wrtha i 'gwranda, alli di unai gario 'mlaen fel ti'n gwneud, neu maen rhaid i ti wneud rhywbeth am y peth'. Fe es i am un sesiwn [bocsio]. O'dd y boi 'ma, sy'n gyn-bencampwr, 'wedodd e 'you need to give me three sessions a week for a month, and you'll be in a better place'. Ac o fewn blwyddyn o'n i wedi colli tair stôn.

"Am y tro cynta' erioed, 'nes i fwynhau g'neud ymarfer corff, achos trwy mywyd, o'n i wedi gasáu e.

"Fe wnaeth e weddnewid y ffordd o'n i'n byw. Mewn job fel hyn lle mae dyn ddim yn cael lot o amser sbâr, mae cadw'n ffit yn bwysig.

"Dwi 'di dysgu hefyd bod yn ffit yn golygu fod dyn yn fwy miniog a iachach o safbwynt meddwl. Mae hynny wedi bod yn agoriad llygad - do'n i byth wedi gwneud y cysylltiad rhwng y ddau.

"Fe newidiodd y ddelwedd achos fod y corff wedi newid. Ond 'nes i ddim 'neud e i 'neud shew', fel fydde Dad yn ddweud. Nes i fe achos o'n i isie newid ychydig, ac o'n i'n teimlo'n well am fy hunan achos mod i wedi colli pwyse. Mae e wedi rhoi lot mwy o egni i fi a dwi'n llawer mwy hapus.

"Fe fydd 'na ddydd pan fydd 'na rywun yn dweud 'diolch yn fawr'... ond 'wi isie bod mas o'r drws cyn fod hynny'n digwydd.

"Dwi isie dweud 'diolch yn fawr i chi, dwi 'di cael amser grêt, ond 'wi'n mynd i 'neud rhywbeth arall nawr'. Ond y broblem yw, dwi ddim yn barod i 'neud 'na 'to! 'Wi'n mwynhau'r gwaith a dwi ddim isie gadel iddo fe fynd.

"Fydden i'n parhau i ddarlledu, gobeithio, ond fydd yna 'chydig o waith dysgu, gwaith prifysgol, fydden i isie dysgu Sbaeneg yn rhugl achos ma'n Sbaeneg i bach yn rhydlyd... mae digon o bethe i 'neud. 'Wi'n chware'r piano gartre' lot, ond bydden i'n mynychu llawer mwy o gyngherdde, fydden i'n darllen mwy...

"Ond y gwir yw, ydw i isie ymddeol? Nagw - o safbwynt meddwl a chorff. O'dd Dad yn gweud yr un peth - 'paid stopio gweithio, caria 'mlaen'.

"A dwi'n credu fod hynny'n gyngor da i ni gyd."

Mae rhaglen Meistri ar BBC Radio Cymru am 18.00 Dydd Gwener 27 Rhagfyr

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau Cysylltiedig