Liam Williams i ailymuno â'r Scarlets o Saracens

Liam Williams Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Mae Liam Williams wedi ennill 62 o gapiau dros Gymru

Bydd cefnwr Cymru a'r Llewod, Liam Williams yn ailymuno â'r Scarlets o Saracens ar ddiwedd y tymor.

Fe wnaeth y chwaraewr 28 oed adael y rhanbarth yng ngorllewin Cymru i ymuno â phencampwyr Ewrop yn 2017.

Ond mae ei gytundeb gyda Saracens yn dod i ben ar ddiwedd y tymor, ac er bod y Gweilch wedi dangos diddordeb, mae wedi penderfynu dychwelyd i Lanelli.

Mae amheuaeth a fydd Williams ar gael ar gyfer ymgyrch Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2020 wrth iddo wella o anaf gafodd i'w ffêr yng Nghwpan Rygbi'r Byd.

Bydd y ffaith fod y cefnwr yn dychwelyd i Gymru yn cael ei groesawu gan brif hyfforddwr newydd Cymru, Wayne Pivac.

Fe fydd Williams ar gael ar gyfer pob gêm a sesiwn hyfforddi gyda'r tîm cenedlaethol o haf 2020 ymlaen, ac ni fyddai wedi bod ar gael ar gyfer rhai o'r rheiny pe bai'n aros yn Lloegr.