Menyw 84 oed o Aberdâr wedi marw mewn gwrthdrawiad

Published
image captionYr olygfa ar Heol Rhigos yn Hirwaun ddydd Sadwrn

Mae Heddlu'r De yn apelio am wybodaeth yn dilyn marwolaeth menyw 84 oed ddydd Gwener.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng BMW coch a Peugeot llwyd ar Heol Rhigos yn Hirwaun toc cyn 15:00.

Bu farw gyrrwr y Peugeot - menyw 84 oed o Aberdâr - ac mae ei theulu wedi cael gwybod.

Mae dyn 25 oed o ardal Hirwaun, gafodd ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus, bellach wedi ei ryddhau dan ymchwiliad.

Pynciau Cysylltiedig