Y Bencampwriaeth: Luton Town 0-1 Abertawe

Andre Ayew Image copyright Athena Pictures
Image caption Ayew (chwith) ydy prif sgoriwr yr Elyrch yn y Bencampwriaeth

Mae Abertawe wedi dringo'n ôl i'r safleoedd ail-gyfle yn dilyn buddugoliaeth o 1-0 yn erbyn Luton Town oddi gartref.

Sgoriodd Andre Ayew gôl hwyr i'r ymwelwyr gyda llai na 10 munud yn weddill o'r 90.

Dyma ail fuddugoliaeth yr Elyrch o'r bron yn y Bencampwriaeth.

Mae'r canlyniad yn rhoi tîm Steve Cooper yn y chweched safle, tra bod Luton yn aros tua'r gwaelodion.